Neil Foden yn cael ei garcharu am 17 mlynedd

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau聽o gam-drin pedair merch yn rhywiol

Mae Neil Foden, cyn-bennaeth ysgol yng Ngwynedd, wedi ei garcharu am 17 mlynedd.

Ym mis Mai cafwyd Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd Foden, 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.

Bydd yn rhaid iddo dreulio dau draean o'i ddedfryd o dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Roedd Foden wedi gwadu'r holl gyhuddiadau a honni nad oedd wedi cyffwrdd 芒'r merched.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Llun.

Fe ddywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod Foden yn "fwli" a oedd yn "cuddio cyfrinach erchyll... obsesiwn gyda merched ifanc".

Fe gymerodd Foden fantais o'i safle fel prifathro er mwyn ei "foddhad rhywiol llygredig" dro ar 么l tro, medd y Barnwr Rowlands.

"Doeddech chi ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn eich herio, na'r dioddefwyr yn siarad.

"Heb hyder y dioddefwyr a chymorth eu teuluoedd, nac ymchwiliad trwyadl yr heddlu, fe fyddech chi wedi parhau i droseddu."

Dywedodd bod Foden wedi bod yn "ddylanwad milain" ac wedi boddhau ei hun hyd iddo gael ei arestio.

"Doeddech chi ddim wedi dangos owns o edifeirwch a does gennych chi ddim dealltwriaeth o'r niwed difrifol iawn yr ydych chi wedi ei achosi i'ch dioddefwyr a'u teuluoedd... yn ogystal 芒'ch cydweithwyr."

Disgrifiad o'r fideo, Cafodd Neil Foden ei arestio gan yr heddlu yn Ysgol Friars, ble roedd yn bennaeth

Roedd Foden yn "gymeriad gormesol" a "bwli" a gafodd ei gosbi ar 么l i'w ddioddefwyr orfod ail-fyw yr hyn ddigwyddodd iddynt, meddai.

"Roeddech chi'n ddyn yr oedd pobl yn ei edmygu, ond yn cuddio cyfrinach erchyll... obsesiwn gyda merched ifanc."

Ychwanegodd fod absenoldeb ymchwiliad ffurfiol wedi i aelodau o staff fynegi pryder am ymddygiad Foden gyda Chyngor Gwynedd o bosib wedi "annog" Foden i barhau i droseddu.

"Roeddech chi'n byw celwydd."

Dywedodd y byddai Foden yn cael ei wahardd rhag gweithio 芒 phlant byth eto, ac y byddai'n cael ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.

Fe osododd orchymyn atal 10 mlynedd ar Foden, sy'n ei wahardd rhag cysylltu 芒'i dioddefwyr.

'Dyfodol anobeithiol'

Fe eisteddodd Foden gyda'i ben wedi plygu wrth i ddatganiadau gan y pedair a gafodd eu cam-drin gael eu darllen i'r llys.

Ar adegau, siglodd y cyn-bennaeth ei ben fel petai'n anghytuno 芒'r hyn yr oedd yn ei glywed.

Fe ddywedodd un o'r dioddefwyr - Plentyn D - ei bod hi wedi'i "drysu" gan weithredoedd Foden, a'i bod yn cael hunllefau ac 么l-fflachiadau.

"Dwi wedi colli pob un o'm ffrindiau a dwi'n teimlo'n unig," meddai.

"Mae fy nyfodol yn teimlo'n gwbl anobeithiol."

Fe wnaeth dioddefwr arall, a elwir yn Plentyn C, ddarllen ei datganiad i'r llys 鈥 am ei bod i Foden glywed 鈥測n uniongyrchol yr effaith gafodd o鈥 ar ei bywyd.

Esboniodd hi nad oedd modd iddi gofleidio鈥檌 thad am yn hir iawn yn sgil yr hyn ddigwyddodd iddi.

鈥淒wi ddim eisiau bod yn hapus na mwynhau fy hun, achos 鈥榙w i'n poeni y bydda鈥 i'n torri.

鈥淔e gymerodd o fantais o fy nghorff a fy meddwl... o鈥檔 i'n arfer bod yn berson hapus... nawr dwi'n fwy oeraidd, a dwi ddim yn poeni."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd Foden yn euog o gam-drin ei dioddefwyr ym mis Mai

Dywedodd ei bod wedi gofyn i Foden a oedd hi鈥檔 gallu ymddiried ynddo, a鈥檌 fod wedi dweud ei bod hi.

鈥淩oeddet ti鈥檔 dweud celwydd,鈥 meddai hi wrth Foden ddydd Llun.

Darllenodd Plentyn B ei datganiad i'r llys, gan ddweud bod Foden wedi 鈥渞hwygo rhan enfawr鈥 o鈥檌 bywyd oddi wrthi.

鈥淢ae鈥檔 brifo achos ro鈥檔 i'n ymddiried ynddo fo... mae o wedi cymryd fy ngallu i ymddiried mewn pobl i ffwrdd ohona鈥 i.鈥

Ychwanegodd y gallai straen yr achos llys fod wedi ei osgoi 鈥減e bai Mr Foden wedi dweud y gwir yn y lle cyntaf".

Yn natganiad Plentyn A, a gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedodd hi fod gweithredoedd Foden yn 鈥渁nfaddeuol鈥 a bod y dioddefwyr wedi cael eu 鈥渉ecsbloetio鈥.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Gareth Evans o Heddlu'r Gogledd bod y ddedfryd yn adlewyrchu troseddau "arswydus" Neil Foden

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddedfryd yn "adlewyrchu natur ofnadwy troseddau Neil Foden".

鈥溾橠a ni鈥檔 rhannu sioc a ffieidd-dod ein cymunedau tuag at ei droseddau," meddai'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans.

鈥淔el pennaeth ysgol, ei swydd oedd diogelu pobl ifanc, edrych ar eu holau a鈥檜 datblygu nhw er mwyn cael dyfodol gwell.

"Yn lle hynny, mi wnaeth gamddefnyddio ei swydd er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun.

鈥淕alla i ddim gor-ddweud yr effaith mae hyn wedi鈥檌 gael ar ein cymunedau ni, yn enwedig ar bobl ifanc yr ardal.

鈥溾橠wi鈥檔 annog unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol yn y gorffennol i ddod atom ni. 鈥楧a ni yma i wrando. 鈥楧a ni yma i鈥檆h helpu chi. Mi wnawn ni ein gorau drosoch chi.鈥

Ychwanegodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw'n croesawu'r ddedfryd.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y dioddefwyr yn cael eu cysuro gan y ddedfryd a'r ffaith bod Foden wedi'i gosbi," medd yr Uwch Erlynydd Ceri Ellis-Jones.

Disgrifiad o'r llun, Bu Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars ac yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle

Cafwyd Neil Foden yn euog ym mis Mai o:

  • 12 cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn;
  • dau gyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth;
  • un cyhuddiad o achosi neu annog gweithgaredd rhywiol 芒 phlentyn;
  • un achos o geisio trefnu i gyflawni trosedd rhyw 芒 phlentyn;
  • un cyhuddiad o gyfathrebu rhywiol gyda phlentyn;
  • un achos o feddu ar luniau anweddus o blentyn;
  • un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol ar blentyn.

Cafwyd o鈥檔 ddieuog o un cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phumed merch.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 麻豆官网首页入口.