麻豆官网首页入口

Caerl欧r yn penodi'r Cymro Steve Cooper yn rheolwr

Steve CooperFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Steve Cooper ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair gydag un o elynion Caerl欧r, Nottingham Forest

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerl欧r wedi penodi cyn-reolwr Abertawe, Steve Cooper yn rheolwr.

Mae'r Cymro wedi bod heb glwb ers iddo adael Nottingham Forest ym mis Rhagfyr y llynedd.

Fe enillodd Caerl欧r ddyrchafiad y tymor diwethaf ar 么l gorffen ar frig y Bencampwriaeth, ond cafodd Enzo Maresca, y rheolwr wnaeth arwain y Foxes i Uwch Gynghrair Lloegr, ei benodi yn rheolwr Chelsea ddechrau'r mis.

Gydag ansicrwydd yn parhau yngl欧n 芒 dyfodol Rob Page fel rheolwr Cymru, roedd Cooper yn un oedd wedi ei gysylltu 芒'r swydd honno.

Ond mae Cooper, sydd hefyd wedi rheoli t卯m dan-17 Lloegr, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Chaerl欧r.

Dywedodd mewn datganiad fore Iau: "Dwi wir yn edrych ymlaen, ac yn falch iawn o gael y cyfle i reoli Caerl欧r.

"Mae'n glwb ardderchog gyda hanes arbennig a chefnogwyr angerddol. Dwi'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda charfan mor dalentog, ac am yr her o gyflawni ein hamcanion yn yr Uwch Gynghrair."