麻豆官网首页入口

Sefydlu gr诺p rhedeg yng Nghaernarfon yn dilyn profiad 'dychrynllyd'

Catrin a'r ffrindFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe sefydlodd Catrin (chwith) glwb rhedeg merched yng Nghaernarfon ar 么l iddi gael profiad annifyr tra'n rhedeg ar ei phen ei hun

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc o'r Felinheli wedi sefydlu gr诺p rhedeg i ferched yng Nghaernarfon er mwyn sicrhau fod merched yn teimlo'n ddiogel wrth redeg yn yr ardal.

Fe gafodd Catrin Mather brofiad annifyr tra'r oedd hi allan yn rhedeg ar ei phen ei hun fis Mai.

Cafodd ei dilyn gan ddieithryn a bu'n rhaid iddi alw'r heddlu.

Dywedodd fod y digwyddiad wedi ei "dychryn yn llwyr" a bod sefydlu'r clwb yn gyfle i ferched ddod at ei gilydd a chael rhedeg mewn awyrgylch saff a chefnogol.

Fe ddatgelodd ymchwil gan gwmni Adidas fod 92% o ferched yn teimlo'n anghyfforddus tra鈥檔 rhedeg ar eu pen eu hunain.

Gyda nifer o glybiau tebyg wedi eu sefydlu ledled Cymru, dywedodd Gwen Owen, sylfaenydd Clwb Merched M么n, ei fod "mor empowering" gweld merched yn cefnogi ei gilydd.

Digwyddiad yn 'wake up call'

Ers ei sefydlu dair wythnos yn unig yn 么l, mae dros 180 o fenywod yr ardal eisoes wedi ymaelodi 芒 'Rhed Rownd Dre'.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, fe ddisgrifiodd sylfaenydd y gr诺p, Catrin Mather, sut y cafodd ei dilyn gan ddyn tra'r oedd hi allan yn rhedeg ar ei phen ei hun ym mis Mai.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae criw Caernarfon yn cwrdd yn wythnosol i redeg 5km o amgylch yr ardal

Dywedodd ei bod wedi "gorfod galw'r heddlu... a dim ond dwywaith dwi wedi rhedeg ben fy hun ers hynny achos mae wedi fy nychryn i'n hollol."

"Mae lot yn teimlo fel merched ei bod hi'n anoddach i redeg yn y gaeaf gan fod hi'n dywyll a ddim yn teimlo mor saff ella.

"Oedd o'n ofnadwy achos dwi wedi bod yn rhedeg ers Covid, a dw i erioed wedi gorfod meddwl am y peth... ond 'naeth o ddychryn fi achos oedd o'n bach o wake up call mewn ffordd, bo fi angen cofio bod angen i fi gadw'n saff."

Teimlad 'empowering' gweld cymaint yn dod ynghyd

Mae'r criw o ferched yn cwrdd yn wythnosol ac yn gorffen y daith yn siop 'Jac y Do' er mwyn "cefnogi busnesau lleol".

Dywedodd Catrin ei fod yn deimlad "empowering" a'i fod "mor neis gweld cymaint o ferched yn dod at ei gilydd, a jyst gwybod fod pawb yna i gefnogi ei gilydd".

鈥淒wi鈥檔 meddwl fod o鈥檔 gyfle da i bobl fynd allan, cael awyr iach, switcho ffwrdd ar 么l gwaith鈥 neud byd o les i iechyd meddwl".

Mewn ymchwil gan gwmni Adidas, a oedd yn cynnwys 9,000 o redwyr, dywedodd 92% o fenywod eu bod yn poeni am eu diogelwch, gyda nifer uchel yn dweud eu bod yn poeni y gallen nhw brofi ymosodiad corfforol.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gr诺p rhedeg merched M么n wedi ei sefydlu ers sawl mis ac yn mynd o nerth i nerth

Draw ar Ynys M么n, mae gr诺p rhedeg Merched M么n wedi ei sefydlu ers sawl mis ac yn mynd o nerth i nerth.

Dywedodd sylfaenydd y gr诺p, Gwen Owen, sy'n athrawes yn Ysgol Bodedern, ei bod wedi cael digon o redeg ar ei phen ei hun.

Ar 么l gweld clybiau tebyg yn cael eu sefydlu mewn dinasoedd, fe benderfynodd sefydlu un ar gyfer merched M么n.

"Mae'n rili neis, doedd 'na ddim byd fel'ma yma, mae wedi tyfu lot ers i ni ddechrau.

"Mae cymaint ohonyn nhw [aelodau鈥檙 gr诺p rhedeg] yn deud bod nhw'n teimlo'n saff yn mynd allan i redeg ac yn hyderus yn trio gwneud pethau gwahanol.鈥

Dywedodd fod sefydlu'r gr诺p wedi bod yn gyfle i ferched yr ardal greu ffrindiau a chymdeithasu heb fod pwyslais ar yfed alcohol.

"Ma' tyfu fyny yn eich 20au mor anodd i neud ffrindiau, ond ma' gennym ni gr诺p rili cefnogol, rili ffeind yma.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gwen Owen, sylfaenydd y gr诺p ei fod yn "rili neis, doedd 'na ddim byd fel'ma yma, mae wedi tyfu lot ers i ni ddechrau"

A hithau wedi bod yn rhedeg ers dros flwyddyn bellach, dywedodd fod rhedeg mewn gr诺p yn deimlad braf a diogel.

Dywedodd ei bod yn cario larwm atal trais a chwistrellydd a bod ganddi oleuadau ar ei fest wrth redeg er lles ei diogelwch.

Gyda'r gr诺p yn cwrdd ar sawl achlysur yn ystod yr wythnos mewn gwanhaol ardaloedd ar Ynys M么n, dywedodd fod y criw "fel Merched y Wawr" yn sgwrsio ac yn cefnogi ei gilydd.

"Ma' lot o'r criw yn dweud eu bod wedi creu ffrindiau oes yma".

Ei gobaith yw gweld y gr诺p yn parhau, ac i annog mwy o ferched i gymdeithasu wrth redeg.

Pynciau cysylltiedig