麻豆官网首页入口

Troi caniau a photeli'n arian yn arbrawf Aberhonddu

Caniau
  • Cyhoeddwyd

Fe allai cynllun arbrofol yn Aberhonddu weddnewid y ffordd y mae pobl yn ailgylchu poteli a chaniau drwy'r Deyrnas Unedig.

Mae pob cynhwysydd diod sy' ar werth yn y dref wedi derbyn cod unigryw y mae modd ei sganio.

Gall drigolion dderbyn 10c am bob un y maen nhw'n dychwelyd, naill ai drwy eu biniau ailgylchu adref neu i bwyntiau casglu penodol.

Mae gwledydd ar draws y DU yn bwriadu cyflwyno cynllun dychwelyd poteli erbyn 2025.

Ond mae gwireddu'r syniad wedi profi'n hynod heriol hyd yma - gyda siopau'n poeni am orfod gosod isadeiledd drud, cynghorau'n ofni colli incwm o werthu'r poteli maen nhw'n casglu o gartrefi, a llywodraethau Cymru a'r Alban yn ffraeo 芒 gweinidogion San Steffan yngl欧n ag a ddylid cynnwys gwydr mewn unrhyw gynllun.

Yn 么l Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford mae'r arbrawf yn Aberhonddu yn cynnig "tystiolaeth go iawn o sut allwn ni ateb rhai o'r heriau yma".

Sut mae'r cynllun yn gweithio?

Mae prif archfarchnadoedd y DU a gwneuthurwyr diodydd yn helpu ariannu'r cynllun, fydd yn para am 16 wythnos, ac mae bron i bob siop sy'n gwerthu poteli a chaniau yn y dref yn cymryd rhan.

Mae Nelli Salter, rheolwr y cynllun, yn arwain t卯m bychan sydd 芒'r dasg anferth o ymweld 芒 phob siop yn ddyddiol i osod sticer sy'n cynnwys cod QR ar bob un o'r diodydd.

Gall drigolion sganio'r cod wedyn gan ddefnyddio ap ar eu ffonau os ydyn nhw'n ailgylchu yn eu bin ailgylchu adref, defnyddio un o sawl peiriant pwrpasol yn y dref, neu ymweld 芒 siopau penodol sy'n gallu sganio'r poteli ar eu rhan.

"Dyma'r tro cynta' erioed i dref gyfan gynnal arbrawf fel hyn, felly mae'r potential yn eitha' mawr," meddai.

"Un o'r pethe gorau hyd yma oedd yn ystod G诺yl Jazz Aberhonddu pan o'dd llwyth o blant yn rhedeg o amgylch yn casglu eu ceiniogau!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nelli Slater yn un o'n t卯m sy'n gosod sticeri QR ar bob un diod

Yn y Spar lleol dywedodd y cynorthwydd Mark Jones fod pobl "yn aros tan fod ganddyn nhw 10 i 12 botel ac yna'n dod 芒 nhw i mewn ac yn prynu bag o losin i'r plant".

"Cyn gynted 芒 ry'n ni wedi llenwi bag ry'n ni'n ffonio'r cyngor a maen nhw'n dod i'w casglu nhw felly mae'n gweithio'n dda."

Ychwanegodd: "Un dydd Sul fe ddaeth 'na ddyn i mewn 芒 68 potel oedd yn dipyn o her ar y pryd - ond fe ddelion ni 芒'r peth!"

Y tu allan i Greggs yng nghanol dref, lle mae un o'r peiriannau derbyn poteli wedi cael ei leoli, roedd trigolion lleol i'w gweld yn gefnogol iawn ar y cyfan.

"Dwi'n dod o'r Weriniaeth Siec a ry'n ni wedi 'neud y math yma o beth gyda photeli ers cyn 'mod i'n cofio, ac mae llai o mess ar y stryd, llai o wydr wedi torri," meddai Iva Skollova.

Ychwanegodd Sue Lewis y byddai "unrhyw beth sy'n atal plastig rhag llygru'r amgylchedd yn beth da".

Ond roedd y cyn-brifathro John Meurig Edwards yn dweud nad oedd yntau wedi cymryd rhan "fel un sydd ddim yn defnyddio apiau yn gyffredinol".

"Wy'n credu falle bydd 'na broblem gyda phobl fel fi sy'n tynnu 'mlaen fel petai o ran defnyddio'r system".

Serch hynny, "dwi'n meddwl fod e'n arbrawf werth rhoi cynnig arno," meddai er mwyn cynyddu lefelau ailgylchu ac atal sbwriel, "chi'n gweld caniau yn cael eu gadael a'u taflu - unrhyw beth sy'n mynd i gael effaith ar 'na bydd hynny'n fanteisiol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd John Meurig Edwards y gallai apiau fod yn drafferth i rai

Yn ei chartref ger yr eglwys gadeiriol, fe ddangosodd Dr Sarah Ward-Clavier, darlithydd mewn hanes Cymru, y broses o hawlio eich 10c pan yn defnyddio'ch bin ailgylchu eich hun.

Mae'r ap yn cadw golwg ar faint o boteli ry'ch chi'n llwyddo eu hailgylchu, unwaith ry'ch chi'n cyrraedd 拢5 mae modd bancio hynny neu ei gynnig i elusen.

"Mae'n dda bod hyn yn digwydd yn Aberhonddu achos ein bod ni'n dref gymharol fach ond mae lot o bobl yn frwdfrydig dros ailgylchu felly dyma'r lle perffaith mewn ffordd ar gyfer y math yma o arbrawf," meddai.

"Mae'n neis cael 10c yn 么l, a ma'r dechnoleg i'w gweld yn gweithio."

Eglurodd Duncan Midwood, cyd-sylfaenydd y Digital Deposit Return Scheme Alliance, sy'n gyfrifol am yr arbrawf, mai'r rheswm pam fod cymaint o siopau mawrion fel Morrisons, Co-op ac Aldi 芒 diddordeb yn y cynllun yw eu bod nhw'n awyddus i weld poteli'n cael eu dychwelyd drwy finiau ailgylchu pobl adref mewn unrhyw gynllun fydd yn cael ei gyflwyno ar draws y DU maes o law.

"Mae'n golygu nad oes rhaid iddyn nhw roi'r isadeiledd yn ei le i gymryd 100% o'r poteli drwy eu siopau, a mewn gwirionedd mae'r holl ffordd ni wedi dylunio hyn yn ceisio lleihau'r effaith ar siopau."

Hyd yma mae tua 1,000 o gartrefi - allan o oddeutu 4,000 yn Aberhonddu - wedi cymryd rhan yn yr arbrawf.

Ar hyn o bryd dyw'r poteli a'r caniau ddim yn costio mwy, gyda'r 10c yn cael ei dalu gan archfarchnadoedd sy'n cefnogi'r gwaith.

Y cam nesa' fydd "cynllun peilot llawer mwy rhywle arall yn y DU lle gallwn ni gael codiau wedi'u gosod ar boteli gan y cynhyrchwyr, a pherswadio'r siopau i ychwanegu blaendal llawn i'r cynnyrch".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Mark Drakeford gyfle i drio'r peiriannau yn Aberhonddu

Mae poteli gwydr wedi'u cynnwys yn yr arbrawf, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dychwelyd drwy finiau ailgylchu pobl gartref.

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford ei fod yn benderfynol o gynnwys gwydr mewn unrhyw gynllun terfynol drwy Gymru - er gwaetha' pryderon bragwyr a gwrthwynebiad gan Lywodraeth y DU.

"Heb gael gwydr yn y system bydd y system ddim yn effeithiol fel y'n ni eisie gweld e," meddai.

Mae gan Gymru record i'w ganmol o ran ailgylchu, gan gyrraedd trydydd mewn tabl byd-eang o wledydd sydd ar y blaen.

Bellach mae 'na darged i sicrhau nad yw Cymru'n cynhyrchu unrhyw wastraff o gwbl erbyn 2050.

Pynciau cysylltiedig