Carchar y Parc: Achosion o hunan-anafu wedi dyblu

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Roedd cynnydd cyffredinol o 25% yn nifer yr achosion o hunan-anafu yng ngharchardai Cymru a Lloegr

Fe wnaeth achosion o hunan-anafu yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr fwy na dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf, yn 么l ystadegau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cafodd y nifer uchaf erioed o achosion mewn blwyddyn eu cofnodi yn y 12 mis hyd at ddiwedd Mawrth - 2,330 o'i gymharu 芒 1,088 yn 2022-23.

Cafodd nifer uwch o achosion o hunan-anafu eu cofnodi hefyd yng Ngharchar y Berwyn, Wrecsam a Charchar Caerdydd, ond roedd yna ostyngiad yng Ngharchar Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc fod achosion o'r fath "wedi bod yn gostwng yn sylweddol" o fis i fis ers Ebrill, a'u bod yn "ymroddi i gefnogi poblogaeth carchar cymhleth" ar y safle.

Cynnydd mewn achosion yn 'argyfwng'

Roedd yna gynnydd cyffredinol o 25% yn nifer yr achosion o hunan-anafu yng ngharchardai Cymru a Lloegr, sy'n "argyfwng" yn 么l un elusen.

Yn 2023-24 roedd yna 852 achos ymhlith bob 1,000 o garcharorion.

Roedd cyfradd Carchar y Parc yn 1,334 o achosion i bob 1,000 o garcharorion, o'i gymharu 芒'r lefel sydd i'w ddisgwyl o hyd at 600.

Ym mis Mai, fe honnodd chwaer carcharor 芒 hanes i anafu ei hun na chafodd ei fonitro'n briodol cyn iddo gael ei ganfod wedi marw yn ei gell.

Mae Carchar y Parc wedi dweud bod yr Ombwdsmon Carchardai yn ymchwilio i farwolaeth Justin Lewis, 29.

O dros 4,300 o achosion o hunan-anafu yng Nghymru, roedd ychydig dros 100 angen triniaeth ysbyty, gan gynnwys 63 achos o Garchar y Parc.

Mae Carchar Pen-y-bont ar Ogwr wedi cofnodi ei boblogaeth uchaf ers agor yn 1997 - 1,768 o garcharorion ar gyfartaledd yn 2023-24.

Ond roedd yna fwy o orboblogi yng ngharchardai h欧n Cymru.

Roedd 81% o garcharorion ym Mrynbuga yn cael eu cadw mewn amodau gorlawn, yn ail yn unig i Garchar Durham.

Dyna hefyd sefyllfa 79% o garcharorion yn Abertawe a 63% yng Nghaerdydd.

12 o farwolaethau yng Ngharchar y parc eleni

Yn 么l y wybodaeth ddiweddaraf, mae 12 o farwolaethau wedi eu cofnodi yng Ngharchar y Parc rhwng dechrau Ionawr a diwedd Mehefin - y nifer uchaf eisoes o farwolaethau mewn blwyddyn unigol yn y carchar sy'n cael ei redeg gan gwmni preifat.

Mae'r ffigwr yna'n cynnwys marwolaethau dau ddyn yn eu 70au o achosion naturiol ym mis Mehefin.

Mae pryderon wedi cael eu codi yn y Senedd ac yn Nh欧'r Cyffredin ynghylch nifer y marwolaethau yn y carchar Categori B.

Ond mae'r Parc, Carchar y Berwyn a Charchar Caerdydd oll wedi eu gosod yng Nghategori 1 - y testun pryder mwyaf - yn yr ystadegau diweddaraf i fesur perfformiad o ran hunan-anafu.

Mae'n cyfateb i achos o hunan-anafu mewn carchar Cymreig bob yn ail awr.

Ond o ran sawl mesur arall o ran perfformiad a rheolaeth, fe gafodd carchardai y Parc, Caerdydd ac Abertawe eu gosod yng Nghategori 3, sef "da".

Am yr ail flwyddyn ers ei agor yn 2017, fe gafodd Carchar y Berwyn ei roi yng Nghategori 2, sef sefydliad ble mae rheswm i bryderu.

Fe ddangosodd ffigyrau eraill:

  • Mae bron i hanner yr holl gyffuriau yng Ngharchardai Cymru yn sylweddau seicoweithredol (809 o'r 1,772).
  • Roedd 39% o'r holl gyffuriau cafodd eu darganfod yng Ngharchar y Parc.
  • Cafodd saith carcharor eu rhyddhau ar gam o garchardai yng Nghrymu - gan gynnwys tri o Gaerdydd a dau o Abertawe.
  • Fe gynyddodd nifer yr ymosodiadau o fewn carchardai yng Nghymru 67%, gyda'r cynnydd mwyaf yng Ngharchar y Parc, lle wnaethon nhw bron a dyblu - gyda dau ymosodiad y dydd ar gyfartaledd.
  • Roedd y nifer uchaf erioed o ymddygiad protest yng ngharchardai Cymru (1,114). Roedd bron i hanner yr achosion hynny yng Ngharchar y Parc.

Digwyddiad hunan-niweidio 'bob saith munud'

Fe wnaeth yr Howard League for Penal Reform gyfrifo fod digwyddiad hunan-niweidio yn digwydd mewn carchar yng Nghymru a Lloegr bob saith munud ar gyfartaledd.

Dywedodd y prif weithredwr, Andrea Coomber: "Mae'r ystadegau brawychus yma yn dangos pam fod y llywodraeth newydd yn hollol iawn i gymryd y camau i leihau'r pwysau ar boblogaeth y carchar, a pam fod angen gweithredu pellach i wella carchardai."

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngharchar y Parc.

"Mae pob digwyddiad yngl欧n 芒 darpariaeth iechyd, sy'n cael eu hadrodd ar wasanaeth adrodd digwyddiadau y GIG, yn cael eu hymchwilio ac mae'r canfyddiadau yn cael eu rhannu ar draws adran gofal iechyd y carchar er mwyn sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu," meddai llefarydd.

"Rydym yn ymwybodol o'r heriau sydd wedi eu profi ac mae gennym raglen newydd er mwyn gwella'r hyn rydym yn gwneud."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi'ch effeithio, mae mwy o wybodaeth ar 麻豆官网首页入口 Action Line.