Dioddefwr John Owen yn siomedig 芒 'methiannau' achos Foden

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd Neil Foden yn euog o gyhuddiadau yn erbyn pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd
  • Awdur, Gwyn Loader
  • Swydd, Prif ohebydd Newyddion S4C

Mae un o ddioddefwyr yr athro, dramodydd a'r pedoffeil John Owen wedi dweud ei fod yn "siomedig" gyda "methiannau" yn achos y prifathro Neil Foden.

Cafodd y cyn-brifathro ar Ysgol Friars, Bangor a Phennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, ei ganfod yn euog ddydd Mercher o 19 cyhuddiad o gam-drin pedwar o blant yn rhywiol.

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Gareth Potter - yr unig un o ddioddefwyr John Owen sydd wedi siarad yn gyhoeddus am ei gamdriniaeth - y dylai Neil Foden, fel John Owen o'i flaen, fod wedi cael ei rwystro ynghynt.

20 mlynedd yn 么l cyhoeddwyd adroddiad Clywch gan gomisiynydd plant cyntaf Cymru, Peter Clarke.

Cadarnhaodd yr adroddiad i John Owen, oedd yn athro drama ac yn awdur ar y nofelau oedd yn sail i'r gyfres deledu boblogaidd Pam fi Duw? gam-drin nifer o ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen yn rhywiol dros sawl blwyddyn.

Disgrifiad o'r llun, "Mae 'na fethiannau wedi bod," meddai Gareth Potter

Un o amcanion yr adroddiad oedd argymell gwelliannau a allai rwystro cam-drin plant yn y dyfodol.

Aeth Mr Owen byth o flaen ei well, gan ladd ei hun cyn yr achos llys yn ei erbyn.

Ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae Gareth Potter yn dweud ei fod yn gweld tebygrwydd rhwng y modd y gwnaeth John Owen a Neil Foden gam-drin plant.

"Mae 'na fethiannau wedi bod, yn amlwg," meddai.

"Ma' 'na bethau wedi digwydd yn y gorffennol gyda'r boi yma [Neil Foden], fel wnaeth ddigwydd gyda fy athro i [John Owen], cyn i ni fynd at yr heddlu 20 mlynedd ar 么l iddo fe ddigwydd.

"[Mae'n] siomedig ar sawl lefel.

"'Se fe 'di bod yn well os oedd rhai cynghorau, rhai ysgolion, yn actio yn fwy siarp ar bethau fel hyn."

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Aeth John Owen byth o flaen ei well, gan ladd ei hun cyn yr achos llys yn ei erbyn

Dywedodd Mr Potter bod pobl fel John Owen a Neil Foden yn "sbwylio bywydau pobl ifanc" a'i fod yn "gobeithio geith e beth mae e'n haeddu, [sef] beth bynnag mae'r gyfraith yn ei ddweud".

Wrth grynhoi yn ystod achos Neil Foden, dywedodd y Barnwr y gallai Foden ddisgwyl dedfryd hir o garchar.

Ychwanegodd y barnwr bod tystiolaeth gref o "droseddu rhywiol difrifol".

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 1 Gorffennaf.

Roedd Helen Mary Jones yn Aelod Cynulliad pan gyhoeddwyd adroddiad Clywch ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio i elusennau plant a phobl ifanc.

Dywedodd hi ei bod hi'n grac bod Neil Foden wedi gallu cam-drin plant, dros 20 mlynedd wedi marwolaeth John Owen.

"Ro'dd e'n amlwg yn yr ysgol yna [Ysgol Rhydfelen]. Ro'dd 'na awyrgylch wenwynig. Doedd pobl methu siarad mas," meddai.

"Ro'dd 'na fflagiau coch yn bob man.

"Ond eto, 'da ni'n ffeindio ein hunain mewn sefyllfa... lle mae dyn pwerus wedi cam-ddefnyddio ei b诺er, a does neb wedi camu lan i rwystro fe - ar wah芒n i'r rhai o'dd heb y p诺er i wneud."

"Cafodd yr adroddiad [Clywch] ei gymryd o ddifrif? A ydy Llywodraeth Cymru wedi gweithredu yn llawn ar yr argymhellion? Dyna'r cwestiynau sydd angen ei ofyn.

"Dyna rywbeth allai'r gweinidog wneud - gofyn y cwestiynau a mynd n么l achos bod y patrwm mor debyg.

"Ydyn ni wedi gweithredu, ac os ydyn ni wedi gweithredu, ydyn ni wedi gweithredu yn llawn?"

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw i sylwadau Ms Jones.

Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 麻豆官网首页入口.