麻豆官网首页入口

Prisiau tai Cymru yn is am y pumed chwarter yn olynol

Rhes o dai yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi gostwng am y pumed chwarter yn olynol, yn 么l y ffigyrau diweddaraf cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru.

拢229,263 oedd pris cyfartalog t欧 ddiwedd Mawrth, yn 么l cymdeithas adeiladu Principality - 6.5% yn is na'r flwyddyn flaenorol.

Ym Mro Morgannwg roedd y gostyngiad mwyaf, sef 15.7%.

Gwynedd, Sir Y Fflint, Caerffili ac Abertawe oedd yr unig siroedd i weld prisiau'n codi o'i gymharu 芒'r llynedd.

Mae'r ffigyrau, medd llefarydd ar ran y Principality, yn dangos bod marchnad dai Cymru'n parhau i fod yn ei sefyllfa fwyaf heriol ers argyfwng ariannol 2008.

Gostwng eto wnaeth nifer y tai sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru - llai na 8,400 yn ystod tri mis cyntaf 2024, sy'n ostyngiad o 15% dros flwyddyn.

Daw'r ffigyrau o Fynegai Prisiau Tai Cymru y Principality rhwng Ionawr a Mawrth 2024, sy'n dangos y newidiadau mewn prisiau tai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae prisiau tai wedi gostwng 2.1% yng Nghymru o'i gymharu 芒'r chwarter diwethaf, a 6.5% o'i gymharu 芒'r llynedd.

O'i gymharu 芒'r uchafbwynt cyfartalog o 拢249,000 ddiwedd 2022, mae prisiau wedi gostwng 拢20,000 ar gyfartaledd, ond maen nhw'n dal 拢55,746 yn uwch na phum mlynedd yn 么l.

Chwilio tu allan i'r brifddinas

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Sbel yn 么l, bydde chi'n cael mwy am eich arian yn symud allan o Gaerdydd, ond dwi ddim yn credu eich bod chi'n cael hynny mwyach," medd Craig Preece.

Mae Craig Preece, 60, o Gaerdydd wedi bod yn chwilio am fyngalo i ymddeol gyda'i wraig, ond mae'n disgwyl y byddan nhw'n dod o hyd i rywle y tu allan i'r brifddinas.

Dywedodd fod y gostyngiad cyffredinol ym mhrisiau tai ledled Cymru wedi ei "synnu", o ystyried ei bod yn ymddangos bod prisiau wedi parhau'n gymharol sefydlog yn yr ardaloedd lle mae wedi bod yn edrych, gan gynnwys Caerffili.

"Rydyn ni wedi dod allan o Gaerdydd i chwilio am y math yma o eiddo," meddai.

"Be' dwi 'di sylwi ydy sbel yn 么l, bydde chi'n cael mwy am eich arian yn symud allan o Gaerdydd, ond dwi ddim yn credu eich bod chi'n cael hynny mwyach.

鈥淢ae rhai ardaloedd y tu allan i Gaerdydd ychydig yn llai costus.

"Mae'r farchnad yn teimlo'n gymharol gadarn... ac mae cysylltiadau ffyrdd [gwell] a chysylltiadau rheilffordd yn mynd i helpu pobl i deithio i'r ddinas."

Llai o alw am dai mawr

Fe wnaeth prisiau ostwng o fewn 18 o 22 awdurdod lleol Cymru o'i gymharu 芒'r llynedd.

Roedd yna ostyngiadau ffigyrau dwbl yn siroedd Caerfyrddin, Dinbych, Merthyr Tudful, Powys a Bro Morgannwg, oedd ar frig y tabl gyda gostyngiad o 15.7%.

Ond cynyddu wnaeth prisiau yng Ngwynedd, Caerffili, Abertawe a Sir Y Fflint - y sir gyda'r cynnydd mwyaf, 12%.

Mae nifer y tai a gafodd eu gwerthu hefyd wedi lleihau am chwarter arall, sy'n golygu bod nifer gwerthiannau wedi gostwng yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ers diwedd 2021.

Yn 么l y Principality, cartrefi sengl oedd yn gwerthu waethaf yn ystod y chwarter mwyaf diweddar, ac mae hynny'n amlygu llai o alw am dai mawr.

Ffynhonnell y llun, Principality
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r amodau'n dal yn heriol, medd Shaun Middleton o'r Principality, ond mae'n bosib i'r sefyllfa wella wrth i chwyddiant ostwng

鈥淢ae pwysau economaidd a chost uwch morgeisi'n golygu bod fforddiadwyedd yn dal yn broblem i lawer o brynwyr, gan roi pwysau diamau ar y farchnad dai yng Nghymru," dywedodd pennaeth dosbarthu'r Principality, Shaun Middleton.

鈥淓r yr amodau mwyaf heriol i'r farchnad dai ers argyfwng ariannol byd-eang 2008, mae'r newyddion diweddaraf fod chwyddiant yn parhau i ostwng - er yn arafach na'r disgwyl - yn awgrymu y gallai marchnad dai Cymru weld arwyddion mwy positif yn fuan.

鈥淢ae sawl dadansoddwr economaidd hefyd wedi darogan bod cyfradd sylfaen Banc Lloegr wedi cyrraedd brig o 5.25 a bydd yn gostwng eleni.

"Mae'r dybiaeth yma'n ysgogi cytundebau morgais gwell ac yn gwella fforddwyiadedd tai.鈥

Pynciau cysylltiedig