麻豆官网首页入口

Cwestiynau i'r prif weinidog

Cymorth

Bydd argymhellion ad-drefnu iechyd de Cymru'n cael eu cyhoeddi "ddiwedd y mis".

Dyna ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth ateb cwestiynau aelodau ar 14 Mai 2013.

Gofynnodd aelod Gorllewin De Cymru Plaid Cymru Bethan Jenkins am fwy o wybodaeth am y cynlluniau arfaethedig i ad-drefnu gwasanaethau gofal iechyd de Cymru, sef Rhaglen De Cymru.

Wrth ddweud mai'r disgwyliad yw y bydd y rhaglen yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd Mai 2013, dywedodd y prif weinidog y byddai'n ffafrio un opsiwn ar gyfer ad-drefnu.

Holodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar ai nawr yw'r amser gorau i ad-drefnu gwasanaethau gyda'r galw am ofal brys ar gynnydd, a nifer yn dweud bod y gwasanaeth iechyd "yn gwegian".

Mae'r Ceidwadwyr yn galw am .

"Diogi" fyddai hynny yn 么l y Prif Weinidog, ac nad yw ei lywodraeth yn barod i "wneud dim".

Ymysg y pynciau eraill drafodwyd, roedd tlodi plant a dyfodol y sector adeiladu.

Yn dilyn sesiwn holi'r prif weinidog, gwnaeth Arweinydd y T欧 Lesley Griffiths Ddatganiad ar raglen waith y cynulliad ac yna ymatebodd i geisiadau am ddadleuon a datganiadau yn ystod amser y llywodraeth.