| ![Legacies - Gogledd Orllewin Cymru](/staticarchive/9e48184eadd679776134ca36f77e2e0ac5663bff.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Immigration and Emigration](/staticarchive/75553e41cec931dd97d0d1a946fa677a9f9cf3d1.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/4da81475bce87e85d2d169dd1862a5cb017a775c.gif) |
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia |
![](/staticarchive/c330d17371c90d83e5c0e60047fc98ea6c9e45bd.gif) |
Dianc i’r anialwch
Yno gwireddodd y gwladfawyr eu breuddwydion, a daeth Dyffryn Chubut, ar ôl llawer o waith llaw i’w ddyfrhau, yn glytwaith o ffermydd, pob un â Chymry arnynt, ac chafodd eu rhifau eu cynyddu wrth i ragor o ymfudwyr gyrraedd.
![Gaucho Cymreig wrth ei waith yn y 1960au](/staticarchive/1f7bafde934cf07300b4b8367bc5fb25dd52db62.jpg) © 麻豆官网首页入口 | Sefydlon nhw gysylltiadau cyfeillgar â’r Indiaid lleol, heb ladd na chaethiwo’r un ohonynt. Daeth yr unig wrthdaro ym 1883 pan laddwyd tri Chymro ifanc ar daith hela gan Indiaid a gredai mai aelodau Byddin yr Ariannin oeddynt. Ar y pryd roedd y Fyddin yn canlyn ei pholisi difodi “Concwest yr Anialwch” yn erbyn yr Indiaid.
Chymerodd y Cymry ddim rhan yn y fath bolisïau, ac yn aml iawn gweithredon nhw fel eiriolwyr ar ran yr Indiaid yn erbyn y llywodraeth yn Buenos Aires.
Canolbwyntion nhw ar adeiladu eu hiwtopia eu hunain: Cymraeg oedd iaith yr ysgolion, eu capeli niferus a’u llywodraeth leol eu hunain, a dyma’r gymuned gyntaf yn y byd i roi’r un hawliau pleidleisio i ddynion a merched.
![Gwersylla ar y ffordd i’r Andes](/staticarchive/078efcfd3fa7c16e74135665c8d676302a10cc82.jpg) © 麻豆官网首页入口 | Wedi tyfu’n rhy fawr i’r tir ar gael yn y dyffryn, roedden nhw wedi sefydlu cangen bellach yn yr Andes.
Ond roedd hi’n rhy dda i bara. Dim ots pa mor ddelfrydyddol oedd breuddwyd y gwladfawyr o ryddid, doedd eu cymuned byth yn mynd i dderbyn ymreolaeth mewn gwirionedd oddi wrth lywodraeth ehangol yr Ariannin, llywodraeth a oedd eisiau atgyfnerthu ei rheolaeth ar yr ardal.
Gan Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![English](/staticarchive/6b52237eabc927cf5d1bbc9957b8d6756002d9ad.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Internet Links](/staticarchive/02720e2528146a9fe7a81e33f88dc6a4eb8de93f.gif)
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|

Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Related Stories](/staticarchive/1badd8bfb73dbf34acae4126c1c027fc8e0fd510.gif)
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
|