Cyfres fideo NOW… Gwnewch Offeryn
Ydy’ch bin ailgylchu yn orlawn ar ôl y Pasg? Ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog?
Wel, dyma eich cyfle i fod yn greadigol gyda’n fideos newydd NOW… Gwnewch Offeryn!
Gwyliwch ein gwestai arbennig, Gwenllian Hâf MacDonald sy’n feiolinydd gyda Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú NOW, yn dangos i chi sut i greu eich offerynnau cerdd eich hun allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Cyn bo hir, bydd gennych eich cerddorfa eich hun yn eich ystafell fyw!
Gallwch hefyd lawrlwytho cyfarwyddiadau ar gyfer creu pob offeryn .
Cofiwch rannu eich creadigaethau â ni ar y cyfryngau cymdeithasol – bydden ni wrth ein bod yn eu gweld!
Twitter:
Facebook:
Instagram:
-
Teclyn Bangio Twangio
Yn gyntaf, mae Gwen yn dangos i ni sut i greu Teclyn Bangio Twangio!
-
Corn Ffrengig Pibell Dyfrhau
Y tro hwn, mae Gwen yn defnyddio pibell ddŵr i greu Corn Ffrengig!
-
Ffon Law Rholyn Papur Cegin
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae cyfansowddwyr yn llwyddo i gyfleu sŵn glaw? Darganfddwch sut wrth greu Ffon Law Rholyn Cegin…
-
Banjo Bendigedig
Nesaf, beth am roi cynnig ar greu Banjo!
-
Tambwrîn Tincial Tincian
Hoffech chi greu eich Tambwrîn Tincial Tincian eich hun? Gwyliwch y fideo hwn i gael gwybod sut!