Main content

Am y Corws

Dewch i wybod popeth ynghylch Corws Cenedlaethol Cymreig y 麻豆官网首页入口

Cysylltu

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y 麻豆官网首页入口 yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig. Mae’r Corws – sy’n cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y 麻豆官网首页入口 ym Mae Caerdydd – yn gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 麻豆官网首页入口, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ei hun.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y 麻豆官网首页入口 yn ei throedio hi dan ganu drwy gytganau gwefreiddiol, caneuon llon a gwau gwrthbwynt
The Times

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio Stabat Mater gan Poulenc a rhoi’r perfformiad cyntaf erioed o Sound of Stardust gan Alexander Campkin gyda Julieth Lozano Rolong, enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng nghystadleuaeth 麻豆官网首页入口 Canwr y Byd Caerdydd, a’r arweinydd corawl o fri, Sofi Jeannin, yn ogystal â pherfformio 13eg Symffoni danllyd Shostakovich o dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, a Dewi Sant gan Karl Jenkins ar achlysur pen-blwydd y cyfansoddwr yn 80 oed. Mae hyn oll ar ben ymrwymiadau blynyddol y Corws ym Mhroms y 麻豆官网首页入口; gyda’i ymddangosiadau diweddar yn cynnwys perfformio Requiem Verdi (a ddarlledwyd ar y teledu dros yr haf), Harmonium gan John Adams gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft, a Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze.

Yn ystod tymor 2024-25, bydd y corws yn perfformio Stabat Mater Rossini gyda Masabane Cecilia Rangwanasha, enillydd Gwobr y Gân yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2021, a’r arweinydd Nil Venditti; y Meseia gan Handel gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar byd enwog, John Butt; a Missa Solemnis aruthrol Beethoven yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn Abertawe gydag Andrew Manze; ynghyd â’u cyngerdd Carolau blynyddol a chyngerdd o gerddoriaeth Brahms gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y 麻豆官网首页入口 wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a nhw a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Fe recordiwyd y darn hwn ar gyfer cryno ddisg a fydd yn cael ei ryddhau yn ystod gwanwyn 2025. Mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr eraill hefyd, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y Corws ar 麻豆官网首页入口 Radio 3, 麻豆官网首页入口 Radio Wales a 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, ac ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar 麻豆官网首页入口 Cymru Wales.

Pwy ydi pwy

  • Adrian Partington, Cyfarwyddwr Artistig

Mae Adrian yn cyfarwyddo’r Corws ers 1999. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda llawer o’r corau enwocaf yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys y Philharmonia, y 麻豆官网首页入口 Symphony Chorus a’r London Bach Choir.

  • Christopher Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Mae Christopher yn cyfeilio i’r Corws ers 2000 ac yn 2014 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol. Mae’n canu’r piano cerddorfaol gyda’r Gerddorfa, Opera Cenedlaethol Cymru a cherddorfeydd eraill yn Ewrop. Recordiodd yn eang gyda’r 麻豆官网首页入口 ac fel unawdydd i Chandos.

Sut i geisio

I wneud cais am glyweliad gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y 麻豆官网首页入口 anfonwch e-bost atom gyda’ch enw a’ch manylion cysylltu, a manylion y gerddoriaeth yr hoffech ei chanu mewn clyweliad.