Main content

Cyngherddau Digidol Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú NOW

Croeso

Gwyliwch ein cyfres o berfformiadau digidol i fwynhau Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú NOW o gysur eich cartref.


Mae ein cyngherddau digidol wedi cael eu ffilmio yn Neuadd Hoddinott y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ac ar gael i chi eu mwynhau ar adeg sy’n gyfleus i chi, ble bynnag sy’n gyfleus i chi. Gallwch wylio gartref drwy deledu clyfar, drwy ddyfais symudol pan fyddwch chi allan, neu hyd yn oed yn teithio ar fws neu drên. Ein cerddoriaeth ni ar eich telerau chi...


Bydd y perfformiadau agos atoch hyn yn gyfle i chi fwynhau’r gerddorfa mewn ffordd unigryw a mwy personol. Cofiwch ddysgu rhagor am y gerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio drwy’r nodyn yn y rhaglen ar bob darn.


Mae’r Gyfres o Gyngherddau Digidol wedi cael ei threfnu o amgylch ein gweithgareddau byw, felly edrychwch ar ein dyddiadur cyngherddau i weld yr holl ddyddiadau sydd ar y gweill ac yna eisteddwch yn ôl a mwynhau amrywiaeth o ddarnau cerddorfaol hyfryd.

Ail-lansio Tymor 2024-25

Perfformiadau Blaenorol