Main content

Sut i ffilmio'ch perfformiad gyda Cherddorfa Lockdown y 麻豆官网首页入口

Gadewch i ni fod yn dechnegol. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gwneud y fideo gorau posibl.

Cyn i chi ddechrau recordio

Gwrandewch ar y trac cyfeiliant gyda'r sgôr gerddorol ychydig o weithiau

Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu sut rydych chi’n mynd i chwarae neu ganu’r gerddoriaeth. Gallwch chwarae neu ganu'r dôn, strymio gyda’r cordiau, gosod llinell fas, cyfansoddi'ch unawd eich hun - neu wneud cymysgedd o bethau!

Dyma’ch cyfle i fod yn greadigol a mynegi eich hun wrth gymryd rhan. Nid oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o wneud hyn.

Byddwch yn greadigol!

Dyma'ch perfformiad. Chi sydd i benderfynu sut rydych chi'n cymryd rhan!

Casglwch y pethau angenrheidiol

• Eich offeryn, os ydych chi'n chwarae offeryn. Cofiwch ei diwnio cyn i chi ddechrau!

• Y sgôr cerddoriaeth. Dewiswch y fersiwn sydd yn y cywair iawn ar gyfer eich offeryn.

• Dyfais i wrando ar y trac cyfeiliant. Gallai fod yn gyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar.

• Dyfais ychwanegol i ffilmio'ch hun. Gallai fod yn gamera, tabled, ffôn neu gyfrifiadur.

• Set o glustffonau.

Eich lleoliad recordio

Dewiswch le tawel

Dan do sydd orau. Diffoddwch unrhyw offer swnllyd a gofynnwch i bobl eraill yn y t欧 aros yn dawel wrth i chi recordio.

Gwnewch yn siwr bod y golau yn iawn

Ceisiwch osgoi lluniau o ansawdd gwael trwy wneud yn si诺r bod y lleoliad ffilmio wedi’i oleuo’n dda. Gwiriwch nad oes unrhyw oleuadau llachar y tu ôl i chi, gan gynnwys ffenestri.

Cadwch y cefndir yn syml

Sicrhewch nad oes unrhyw beth yn y cefndir nad ydych chi am i bobl ei weld! A pheidiwch â gwisgo neu ddangos unrhyw ddeunyddiau neu ddillad brand amlwg. Os gwnewch hynny, efallai na fyddwn yn gallu cynnwys eich perfformiad yn y ffilm orffenedig.

Awgrymiadau ar gyfer ffilmio

Ffilmiwch eich hun gan ddefnyddio camera digidol neu'r camera ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur

Gallai meicroffon allanol eich helpu i gael gwell sain - ond peidiwch â phoeni os nad oes meicroffon gennych.

Ffilmiwch yn y modd llorweddol

Os ydych yn defnyddio ffôn neu dabled, bydd angen i chi ei roi ar ei ochr. Gwnewch yn si诺r bod eich dyfais wedi'i gosod mewn lle sefydlog er mwyn osgoi llun sigledig.

Ceisiwch fod yng nghanol y llun gydag ychydig o le o'ch cwmpas

Dylai eich wyneb a'ch offeryn fod yn y llun, ond peidiwch â mynd yn rhy agos i’r sgrin. Os yw hi’n bosibl, gofynnwch i rywun eich helpu i ymarfer - a ffilmiwch eich perfformiad i sicrhau eich bod chi’n hapus gyda phob peth.

Awgrymiadau ar gyfer perfformio

Defnyddiwch glustffonau

Defnyddiwch glustffonau i wrando ar y trac cyfeiliant wrth i chi chwarae neu ganu. Rydym eisiau eich clywed chi, nid y trac cyfeiliant!

Os ydych yn cael trafferth tiwnio wrth wisgo’r clustffonau, efallai y byddai'n werth i chi wrando ar y trac cyfeiliant trwy un glust yn unig.

Cofiwch glapio ar y dechrau

Ar y trac cyfeiliant, byddwch yn clywed dau far (neu wyth curiad) o drac clicio cyn i'r gerddoriaeth ddechrau. Mae'r bariau hyn hefyd wedi'u cynnwys ar eich sgôr cerddorol.

Clapiwch ar guriad cyntaf yr ail far (neu'r pumed o'r wyth clic), fel y nodwyd. Bydd hyn yn ein helpu i gydamseru'ch fideo yn y ffilm orffenedig.

Ac yn bwysicaf oll ...

Perfformiwch yn falch ac yn uchel, byddwch yn greadigol a mwynhewch!