Main content

Ynglŷn â'r gyfres

O ddydd Llun i ddydd Iau am 1820 ar S4C, Ffeil yw'r unig raglen newyddion Gymraeg i bobl ifanc.

Dechreuodd Ffeil ym mis Medi 1995.

Mae 'na dîm o bobl yn gweithio ar y rhaglen gyda Huw yn cyflwyno'n ddyddiol o'r stiwdio yn Llandaf.

Mererid sy'n cynhyrchu'r rhaglen a'i gwaith hi yw penderfynu pa straeon sy'n cael eu cynnwys.

Mae Ffeil yn un o'r rhaglenni sy'n cael eu paratoi gan Adran Newyddion a Materion Cyfoes Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru.

Mae'n adran fawr a phrysur a thrwy'r dydd bydd newyddion yn llifo i mewn o bob rhan o Gymru a'r byd. Tasg criw Ffeil ydy dewis y straeon gorau a'r rhai fydd o'r diddordeb mwyaf i bobl ifanc.

Mae pob math o bynciau yn cael sylw ar y rhaglen - chwaraeon, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, ysgol, yr amgylchedd, straeon doniol a thrist.

Mae'r criw hefyd yn teithio yn gyson i gwrdd â phobl ifanc i glywed am y straeon lleol hynny sy'n bwysig iddyn nhw.