Cyngor Enwebu
Mae’r gwobrau hyn yn dathlu pobl, grwpiau ac anifeiliaid sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill drwy fynd yr ail filltir.
Gallwch enwebu drwy ein ffurflen ar-lein sy’n casglu gwybodaeth amdanoch chi a’ch enwebai.
Ar y ffurflen, rydyn ni’n gofyn am enwebiad 250 gair. Dim ond y geiriau hyn y bydd y beirniaid yn eu gweld, a nhw fydd yn penderfynu pwy fydd yn ennill gwobr yn y pen draw.
Dyma rywfaint o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu gyda’r broses.
- Ysgrifennwch yn llafar a siaradwch o’r galon. Rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n gwneud y person, y gr诺p neu’r anifail hwn yn arbennig i chi.
- Bydd beirniaid y rownd gyntaf yn seilio eu penderfyniad ar eich 250 gair chi yn unig, felly gwnewch i bob gair gyfrif a defnyddiwch gymaint o’r cyfrif geiriau â phosibl.
- Meddyliwch am y pum cwestiwn sylfaenol wrth rannu eich cais gyda ni (Pwy, Beth, Pam, Ble a Sut).
- Byddwch yn ddisgrifiadol a meddyliwch am yr holl synhwyrau i helpu’r beirniaid i weld, arogli, blasu a theimlo pa mor angerddol ydych chi dros berson, gr诺p neu anifail.
- Os oes gennych chi amser, darllenwch eich 250 gair yn uchel cyn ei anfon. Os yw’n anodd ei ddweud, bydd hefyd yn anodd i’r beirniaid ei ddarllen.
- Ni fydd y beirniaid yn clicio ar unrhyw ddolenni gwe. Mae ychwanegu’r manylion hyn yn defnyddio geiriau’n ddibwrpas, felly peidiwch â’u cynnwys.
- Ni fydd y beirniaid yn marcio sillafu, atalnodi na gramadeg.
Cofiwch, yn unol â’n Telerau ac Amodau, rydyn ni’n chwilio am straeon sy’n mynd y tu hwnt i waith cyflogedig neu weithgareddau gwirfoddoli, os yw hynny’n berthnasol i’ch enwebiad. Cliciwch yma i weld ein hysbysiad preifatrwydd a rheolau’r gwobrau, sy’n cynnwys manylion cymhwysedd a’r broses feirniadu.
Cliciwch i enwebu
-
Gwobr Gwirfoddolwr
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu cymuned drwy roi eu hamser yn wirfoddol er mwyn helpu eraill.
-
Gwobr Arwr Ifanc
Dyma wobr i rywun dan 16 mlwydd oedd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
-
Gwobr Cymydog Arbennig
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig.
-
Gwobr Actif
Dyma wobr i unigolyn neu gr诺p o bobl sydd wedi defnyddio ymarfer corff neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau'r sawl sy'n byw yn eu cymuned.
-
Gwobr Anifail
Dyma wobr i anifail sy'n gwella bywyd unigolyn neu gr诺p o bobl; neu, berson neu gr诺p o bobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid i wella lles anifeiliaid.
-
Gwobr Werdd
Dyma wobr i unigolyn neu gr诺p o bobl sy'n gwella neu'n gwarchod yr amgylchedd yn eu hardal leol.
-
Gwobr Codi Arian
Dyma wobr i unigolyn neu gr诺p sydd wedi mynd yr ail filltir wrth godi arian at achos da.
-
Gwobr Gr诺p Cymunedol cefnogir gan Morning Live
Dyma wobr i gr诺p o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned.