Main content

Andrew Tamplin

Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin, Cyfarwyddwr Canna Consulting yng Nghaerdydd. Beti George chats with Andrew Tamplin, Director of Canna Consulting in Cardiff.

Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin.

Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain c么r merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal.

Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn s芒l gyda blinder meddyliol a chorfforol, a dechreuodd deimlo'n isel iawn.

Ar 么l ymddiswyddo o'r banc, a chyfnod o driniaeth i drechu'r iselder, dechreuodd feddwl am gynnig cymorth i eraill gyda'u datblygiad gyrfa. Canna Consulting ydi enw'r cwmni yng Nghaerdydd, a mae'n fusnes sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd.

Mae'n byw gyda John, ei bartner, sydd wedi bod yn graig iddo drwy'r cwbl, a mae'r ddau yn adeiladu t欧 yn Y Barri.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 19 Hyd 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 15 Hyd 2017 12:00
  • Iau 19 Hyd 2017 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad