Main content

Beti George

Mae Beti George yn cyflwyno Beti a'i Phobol.

Ganwyd Beti yn Coedybryn, ac fe dderbyniodd ei haddysg yn Ngholeg y Brifysgol Caerdydd ac Aberystwyth. Am gyfnod fe fuodd yn byw yn Aberhonddu (dysgu yn ysgolion gramadeg y Merched a'r Bechgyn am 18 mis), cyn symud i Abertawe. Yno cafodd swydd gyda'r 麻豆官网首页入口 fel gohebydd i raglen Bore Da oedd yn cael ei chyflwyno gan T. Glynne Davies a geisiodd ddysgu iddi'r grefft o ddarlledu ac a'i hysbrydolodd.

Yn ogystal 芒 chyflwyno Newyddion ar S4C gyda Gwyn Llewelyn, fe gyflwynodd gyfresi o raglenni cerdd.

Bellach, mae Beti yn cyflwyno Beti a'i Phobol. "Mae'r gyfres wedi fy nghynnal ar hyd yr amser - yn ariannol ac yn ysbrydol! Mae hi mor braf i fynd o dan y wyneb wrth gael sgwrs a gwestai. Ond fe allwn i wneud ag awr o raglen yn hawdd!" meddai.

Mae yna ddidwylledd ac agosatrwydd arbennig yn perthyn i'r gyflwynwraig Beti George. Ac mae'n sicr taw'r rhinweddau yma sy'n gwneud i bobol ymlacio a theimlo mor gyfforddus yn ei chwmni wrth rannu rhai o'u profiadau mwyaf dirdynnol ar raglen Beti a'i Phobol.

"Dwi'n credu 'mod i'n berson sy'n teimlo i'r byw wrth glywed pobol yn son am y treialon sy'n eu hwynebu a shwd maen nhw wedi goresgyn yr anawsterau," esbonia Beti.

"Mae'r gwesteion yn aml wedi gorfod wynebu dewisiadau anodd, ymladd afiechyd neu ddygymod a cholled a daw'r dagrau'n aml wrth gyfweld a nhw. Yn rhyfedd iawn mae nhw'n gryfach na fi, am eu bod nhw'n gorfod bod.

"Gobeithio hefyd fod gwrandawyr sy'n wynebu'r un anawsterau yn medru cael rhywfaint o oleuni ar eu sefyllfa a chryfder wrth glywed am brofiadau tebyg i'w rhai nhw.

"Dwi'n mwynhau'r gyfres yn fawr iawn ac wedi cael cyfle i gyfweld a Chymry mor amrywiol yn cynnwys arwyr o'r byd chwaraeon, beirdd, cantorion...mae'r rhestr yn ddiddiwedd."

Mae'n wir dweud fod Beti wedi cwrdd 芒'r rhan fwyaf o arwyr ein cenedl ond petae hi'n cael holi unrhyw un o gwbl, mewn unrhyw iaith, pwy fyddai hwnnw neu honno tybed?

"Baswn i wrth fy modd yn gwahodd ambell i brif weinidog o lywodraeth San Steffan ar y rhaglen a chael cyfle i'w croesholi nhw'n iawn and dwi ddim yn siwr pa mor barod fydden nhw i dderbyn y gwahoddiad!"