Main content

Duncan Brown

Y naturiaethwr Duncan Brown sy'n sgwrsio gyda Beti George. The naturalist Duncan Brown chats to Beti George.

Cafodd Duncan Brown ei eni yn Buxton, Swydd Derby, ond symudodd y teulu i fyw i Waunfawr yn 1949 pan oedd yn flwydd oed. Aeth i Cheltenham i ddilyn cwrs sylfaen mewn Celf ac yno y cyfarfu a'i ddarpar wraig, Gill. Ar ddiwedd y flwyddyn yn y coleg fe symudodd ei rieni i fyw i Wiltshire, oedd yn sioc i Duncan ar 么l 20 mlynedd o fyw yn Waunfawr. Aeth wedyn i Norwich i astudio celfyddyd gain; dechreuodd ddarllen gwaith Kate Roberts a T.H. Parry Williams a phenderfynu ei fod am ddychwelyd i Gymru i fyw a dyna ble y magodd ei ferch, Beca. Ar 么l rhoi'r gorau i ddysgu, treuliodd Duncan Brown gweddill ei yrfa yn rheoli coedwigoedd Dolgarrog ac Abergynolwyn ac yn gweithio i warchodfeydd natur. Cafodd y syniad o greu'r papur Ll锚n y Llysiau, sydd bellach yn wefan dan yr enw Ll锚n Natur ac sydd yn cyd-weithio'n agos gyda Chymdeithas Edward Llwyd.

Ar gael nawr

46 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 25 Ion 2018 18:00

Darllediadau

  • Sul 21 Ion 2018 12:00
  • Iau 25 Ion 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad