Main content

Shan Jamil Ashton

Beti George yn sgwrsio gyda Shan Jamil Ashton, cyn ddarlithydd Prifysgol Bangor a Cymdeithasegydd. Beti George chats to Shan Jamil Ashton.

Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George.

Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest.

Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru.

Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu’n aelod o’r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi’n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiweddarach drwy’r myfyrwyr yn y Coleg mai ystyr y gair ydi prydferth neu hardd.

Bu'n astudio Celf am gyfnod yng Nghaerdydd. Ar ôl magu'r plant fe aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor a graddio yn 1990. Roedd hi wedi bwriadu astudio Addysg er mwyn hyfforddi’n athrawes ond pan roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf fe ddewisodd Ieithyddiaeth a Chymdeithaseg hefyd fel pynciau. Ar ôl ei darlith gyntaf mewn Cymdeithaseg mi roedd hi'n hooked meddai hi!

Bu'n tiwtora a darlithio yn y Coleg Normal ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 15 Rhag 2022 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Welsh National Opera Chorus & Orchestra Of Welsh National Opera

    Nabucco - Va, pensiero (The Chorus of the Hebrew Slaves)

  • Siwan Llynor

    Plu'r Gweunydd

    • Plu'r Gweunydd.
    • Recordiau Aran Records.
  • Lleuwen Steffan

    Cân Taid

    • Gwn Glân Beibl Budr.
    • Sain.
  • Gai Toms

    Gwalia

    • Gwalia.
    • Recordiau Sbensh.
    • 1.

Darllediadau

  • Sul 11 Rhag 2022 13:00
  • Iau 15 Rhag 2022 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad