Main content

Adam Jones

Beti George yn sgwrsio gyda'r Garddwr Adam Jones. Beti George chats to Adam Jones Welsh Gardener.

Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a鈥檌 wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth Beti George.

Tu hwnt i鈥檙 ardd, mae Adam yn dipyn o ieithydd.
Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth, astudiodd Almaeneg ac mae鈥檔 siarad yr iaith, ynghyd 芒 Sbaeneg, rhywfaint o Ffrangeg ac Eidaleg, ac ychydig o Rwsieg, Pwyleg, Tyrceg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban.
鈥淒w i鈥檔 meddwl fy mod i鈥檔 berson eithaf busneslyd ac achos hynny dw i鈥檔 licio dysgu ieithoedd. Dw i鈥檔 gwylio lot o ffilmiau a rhaglenni mewn ieithoedd gwahanol".

Bu鈥檔 gweithio ym myd cyfieithu a chyfathrebu ar 么l graddio, gyda鈥檙 Mentrau Iaith ac yna鈥檙 Coleg Cymraeg, ond roedd rhywbeth ar goll, ac roedd yn awchu am fod allan ar y tir neu yn yr ardd.
Ar 么l prynu ei gartref cyntaf gyda Sara, sy鈥檔 wraig iddo nawr, dechreuodd ailwampio鈥檙 ardd, a rhannu ei waith ar Instagram.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 29 Chwef 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Y Brodyr Gregory

    Mrs Jones

    • Gorau Sain Cyfrol 1.
    • SAIN.
    • 15.
  • 惭脿苍谤补苍

    Tillidh Mi

    • The Test.
    • 惭脿苍谤补苍 Records.
    • 8.
  • Elidyr Glyn

    Yr Eneth Gadd Ei Gwrthod

    • Ambell i G芒n 2.
    • Sain (Recordiau) Cyf.
  • Gwilym

    Neidia

    • Recordiau C么sh Records.

Darllediadau

  • Sul 25 Chwef 2024 18:00
  • Iau 29 Chwef 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad