Main content

GOFAL

Llion Pryderi Roberts, bardd mis Ionawr 2018, sy'n ymateb wedi iddo wrando ar brofiadau’r rhai sy’n gofalu am anwyliaid â Dementia ar y rhaglen Beti: ar ôl colli David.

GOFAL

Mae drws y siop
yn ymagor ei wahoddiad o dy flaen,
tithau’n difeddwl warchod rhag y dyrfa,
a sganio’r allanfeydd am ddrws agored,
cyn cofio
nad oes raid barcuta am beryglon
heddiw.

Cerddi ymysg dilladau
hafau cyplau eraill,
yn braidd gyffwrdd â’r llawes hon a’r llall
er na ddisgwyli wyrth...,
ond mae’r respite mor dda efo fo.

Cyrraedd y caffi,
a diosg byrdwn y bag,
ond nid yw’r ’sgwyddau’n ’sgafnu
o fwrw blinder am awran,
a’r fraich lle bu’n pwyso neithiwr,
o’r gawod i’r gwely,
yn gwynegu ei ddryswch.

Tywallt y te,
fel y gwnei bellach,
gan siantio ‘dwy lwyaid i mi ac un i ti’
wrth y gwacter gyferbyn,
ac wrth i’r llwy ’stwyrian drwy’r anwedd
gweld ei wên yng nghrychiad y llaeth,
a threm hir yr ennyd fer
yn lapio gwres ei ddeall
amdanoch eich dau drachefn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud