Main content

Reuel Elijah

Efallai y byddai鈥檙 rheini y mae cerddoriaeth Gymreig yn ddiarth iddynt yn synnu wrth weld s卯n gerddoriaeth drefol ffyniannus yng Nghaerdydd, ond mae鈥檙 raddfa lawn, sy鈥檔 amrywio o grime i R&B tyner, i'w chlywed yn uchel ar strydoedd y ddinas.

Fact title Fact data
Arddull:
R&B, Hip-Hop
O:
Caerdydd

Mae Reuel Elijah yn un o sêr mwyaf addawol y ddinas heb os nac oni bai. Dim ond 19 oed yw ef, ond mae eisoes wedi ennill ei blwyf fel diddanwr. Mae wedi bod yn rhan o griw dawnsio stryd byd enwog ‘Jukebox’, ac wedi ymddangos ar sioeau teledu megis The Slammer, Children in Need a Got To Dance.

Mae’r dyhead hwnnw i berfformio a chyfareddu cynulleidfa yn rhan amlwg o’i gerddoriaeth hefyd. Gwyliodd filoedd o bobl ei fersiwn ef o ‘Girls Love Beyonce’ gan Drake ar YouTube mewn ychydig ddyddiau, ac mae R&B soffistigedig a swynol Drake yn llathen fesur i gerddoriaeth Reuel ei hun.

Mae wedi perfformio ar lwyfannau mor amrywiol â llwyfan 麻豆官网首页入口 Horizons yn Festival X Caerdydd, ac wedi cefnogi Stormzy yn Ayia Napa yng Ngroeg.

Mae uchelgeisiau Reuel Elijah yn bellgyrhaeddol a’i gerddoriaeth yn goeth ac yn hawdd gwrando arni. Dyn ifanc gyda dyfodol disglair dros ben.

Sesiwn Luniau

Mwy o Reuel Elijah