Main content

Nia Mair

Mae Nia Mair yn gyflwynwraig ar raglen Blas.

"Dwi wrth fy modd yn coginio ers pan oeddwn i yn yr ysgol. Roedd mam yn athrawes gwyddor ty cyn fy ngeni i felly fasa'n gywilydd o beth i mi fod a dim diddordeb mewn bwyd.

"Mi oeddwn yn gwrando bob wythnos ar Blas, felly pan ddaeth y cyfle i mi ymuno a'r tim cyflwyno mi oeddwn i wrth fy modd.

"Mae nghypyrddau i'n llawn o jamiau a siytni - dwi'n tyfu ychydig o lysiau a ffrwythau yn yr ardd ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio'r cwbl (mae'n gas gen i wastraffu unrhywbeth!)

"Mae'n llawer gwell gen i brynu darn bach o gaws lleol gwirioneddol flasus na chosyn mawr o rywbeth tramor o'r archfarchnad!"

"Ond fy nileit penna' ydi mynd i hel mwyar duon, eirin tagu a ballu a dwi'n llenwi fy rhewgell hefo nhw.