Diweddarwyd: 23 Ionawr 2023
Os oes gennych chi gyfrif Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú, efallai y byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch chi i bersonoli ein negeseuon hyrwyddo ar safleoedd eraill. Er enghraifft, efallai na fyddwn ni’n hyrwyddo cyfres Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú i chi ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol neu newyddion os ydych wedi’i gwylio’n barod.
I bersonoli ein negeseuon hyrwyddo, rydyn ni’n paru cyfeiriadau e-bost sydd wedi eu hamgryptio yn ddiogel drwy ein prosesydd trydydd parti, Salesforce. Dim ond os oes gennych chi gyfrif ar eu gwefan yn barod y gall y safle arall weld eich cyfeiriad e-bost. Dydyn ni ddim yn darparu mwy o ddata am ddefnyddwyr Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú.
Rheoli eich data
Os nad ydych chi eisiau i’ch data gael ei drosglwyddo i’r safleoedd eraill, gallwch newid eich gosodiadau. Ewch i’r tab gosodiadau yn eich cyfrif, ac ewch i’r adran preifatrwydd a chwcis. Yna diffoddwch ‘Allow tailored social media recommendations’. Efallai y byddwch yn parhau i weld ein negeseuon hyrwyddo, ond ni fyddan nhw wedi cael eu personoli ar sail data eich cyfrif Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú.