![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Margaret Jones](/staticarchive/4726689dad46efd830154c1be342c90dfb6c71fb.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
'Dal ati' - neges Nadolig Gwerth capel ac eglwys mewn dyddiau anodd |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Mae rhai sy'n mynychu digwyddiadau crefyddol dros y Nadolig yn cael eu hannog i barhau â'r arferiad gydol y flwyddyn.
Mewn neges Nadolig dywed Margaret Jones, llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y gall mynychu capel neu eglwys fod o help mewn dyddiau o ansicrwydd economaidd mawr.
Heidio dros y Nadolig
"Adeg y Nadolig bydd pobl yn llifo yn ôl i gapeli ac eglwysi Cymru, gyda dramâu'r plant a gwasanaethau carolau yn denu cynulleidfaoedd mawr.
"Ond unwaith mae'r Å´yl wedi mynd heibio, mae nifer o bobl yn troi eu cefnau ar Grist am flwyddyn arall," meddai.
"Eto, mae llawenydd yr Efengyl, sy'n fodd i godi calon pobl dros y Nadolig, ar gael iddyn nhw drwy'r flwyddyn. Mae mor drist bod cymaint yn anghofio hyn ac yn ymdrechu i ymdopi â phroblemau bywyd heb gymorth Duw."
Yn bwysicach nag erioed Yn ei neges dywed Miss Jones hefyd fod y gymuned Gristnogol "yn bwysicach nag erioed" pan ydym ar drothwy problemau economaidd a chymdeithasol "na welsom ni mo'u tebyg".
"Mae'n cynnig cyfeillgarwch, diogelwch a chymorth i bobl drwy stormydd bywyd ac rwy'n annog pawb a deimlodd gysur a bendith mewn gwasanaethau Nadolig i geisio'r ymdeimlad yna ar hyd y flwyddyn trwy fynychu capel neu eglwys.
"Cofiwch - dim ond dechrau'r stori oedd y Nadolig," meddai.
Gwefr y geni - ymateb bardd
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![Llusern](/staticarchive/ec747cf9fb15da0ae821563e40885468d85d2f3e.gif) |
![Hanes Crefydd yng Nghymru](/staticarchive/80fdac41115d1718411640ad35a6e595e87e9e2b.jpg) |
![Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk](/staticarchive/ea38bf6d65be9abce06e8fed3cc90259859cc505.gif) |
|