Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Wendy Richards Wendy Richards
Talu teyrnged i ymgyrchydd dros undod Cristnogol
Talwyd teyrnged i'r ddiweddar Wendy Richards fel un a fu'n allweddol i weithgarwch cydenwadol yng Nghymru.

Ar y rhaglen Bwrw Golwg ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru dywedodd y Parchedig Gethin Abram Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol CYTUN, i farwolaeth Mrs Richards, fis Medi 2006 fod, yn "ergyd fawr". "Yr oedd ganddi hi gyngor doeth, cyson, i'w gynnig . Roedd ganddi hi awgrymiadau creadigol a hi i raddau oedd y person oedd yn dal ac yn cynnal y cydweithio cydenwadol yng Nghymru," meddai.

"Yr oedd hi'n ddynes neilltuol. Yr oedd ganddi bersonoliaeth gref a deniadol a phob amser yn gwneud pethau yn gariadus a graslon ac yr ydym yn teimlo'n awr dros Peter, ei gŵr, a gweddill y teulu yn eu colled.

"Ac y mae hi wedi bod yn golled i Gymru hefyd," ychwanegodd.

Yn Rachub ger Bethesda y ganwyd Wendy Richards ond symudodd y teulu i fyw ym Mhenmaenmawr pan oedd hi'n bump oed.

O ysgol y pentref yno aeth i Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor, ac wedi cyfnod o hyfforddiant proffesiynol mewn Astudiaethau Masnachol, penodwyd hi i swydd weinyddol yn Adran Cerdd y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ym Mangor.

Bu'n byw yn Rhydaman ac yn Llundain pan benodwyd ei gŵr, y Parchedig Peter Richards, yn weinidog Eglwys Heol y Castell yno.

Yn y Saithdegau dechreuodd weithio yn swyddfa Cyngor Eglwysi Cymru, a phan ddatblygodd y Cyngor, hwnnw yn CYTUN parhaodd i weithio yn y swyddfa gan ennill gwybodaeth drwyadl o weithgarwch cydenwadol.

Rhyngddynt bu'n gofalu am swyddfa'r Cyngor a CYTUN am dros chwarter canrif.

Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymdeithas Chwiorydd y Bedyddwyr am ddeng mlynedd a bu'n Llywydd y Mudiad.

Bu'n Drysorydd Cenedlaethol Cristnogion yn Erbyn Poenydio am dros ddegawd hefyd ac yn gyfrifol am stondin Cytun ar faes yr Eisteddfod lle gwireddwyd breuddwyd: pan ddaeth yr holl enwadau ac asiantau at ei gilydd mewn un pabell yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003.

Fe'i derbyniwyd yn aelod er anrhydedd o'r Orsedd yng Nghasnewydd a'i hurddo â'r wisg wen.

Bu farw, Medi 17, 2006.

Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý