Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Cryl Lewis a Llinos Roberts, cadeirydd y noson Caryl Lewis yn trafod llyfrau
Gorffennaf / Awst 2007
Cafwyd noson hyfryd iawn ddechrau mis Mehefin pan ymwelodd Caryl Lewis â Siop Tŷ Tawe.

Roedd yno ar wahoddiad y Cylch Trafod Llyfrau i siarad am ei nofel ddiweddaraf, Y Gemydd. Noddwyd y noson gan Academi a Siwan Siop TÅ· Tawe a chafwyd lluniaeth ysgafn yn y siop cyn symud i'r ystafell gefn i gynnal y cyfarfod, gyda Llinos Roberts yn cadeirio.

Caryl gyda Siwan Siop Tŷ TaweYno bu Caryl yn siarad am y broses o greu Y Gemydd, gwaith a gymerodd ddwy flynedd iddi ei ysgrifennu, ac am arwyddocâd rhai o'r cymeriadau a'r digwyddiadau yn y stori. Bu Caryl yn treulio amser gyda gemydd ym marchnad Caerfyrddin, gan ddysgu llawer am adnabod gemau da. Drwy ddarllen llyfrau arbenigol, bu'n dysgu llawer yn ogystal am y grefft o dorri gemau, rhywbeth sy'n rhan bwysig iawn o'r nofel.

Cafwyd ymateb brwd iawn i'w gwaith, a'r farn gyffredinol oedd bod yr ail nofel hon yn rhagori hyd yn oed ar ei nofel gyntaf Martha, Jac a Sianco a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae'r nofel honno'n cael ei throi'n ffilm ar hyn o bryd.

Bu Caryl hefyd yn sôn yn fwy cyffredinol am ei bywyd fel awdur llawn amser a'i dyhead fel person ifanc i bortreadu'r bywyd gwledig y mae hi'n gyfarwydd ag ef yn hytrach na'r bywyd dinesig sy'n destun cynifer o'n nofelau cyfoes.

Caryl a'i mam Doreen LewisMae hi'n ferch o Ddihewyd, ger Aberaeron ac yn ferch i Doreen Lewis, y gantores gwlad adnabyddus. Mae Caryl bellach yn byw ger Aberystwyth.

  • Adolygiad Y Gemydd
  • Mwy am Caryl Lewis

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý