Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Hat-trick neu Goron Driphlyg?
Mai 2009
Mae tîm o Ysgol Gyfun Gwyr wedi ennill cystadleuaeth peirianneg cenedlaethol am y trydydd tro.

Cystadleuaeth flynyddol yw hon ble mae ysgolion a cholegau yn cystadlu gyda chwmni penodol i ddatrys problem peirianneg a osodwyd gan gwmni.

Eleni, bu mwy na 100 o ysgolion o Gymru yn cymryd rhan, gyda rhai colegau yn cofrestru mwy nag un tîm.

Roedd yn gyfle i'r disgyblion ehangu eu gwybodaeth a'u profiadau ac i sylweddoli pwysigrwydd peirianneg yn ein bywydau beunyddiol.

Roedd Ysgol Gyfun Gwyr yn gweithio â Schaeffler UK o Gasllwchwr. Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref, gan barhau am chwe mis, gyda'r cyflwyniad terfynol yn digwydd yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ym mis Mawrth.

Y broblem a osodwyd i'r tîm oedd i greu llinell gydosod awtomataidd a fyddai'n hwyluso'r gwaith yn y ffatri. Rhaid oedd ysgrifennu prosiect o leiaf 100 tudalen, adeiladu model ac yna cyflwyno'r gwaith o flaen beirniaid annibynnol a'r ysgolion eraill.

Dyma'r trydydd tro i'r ysgol gystadlu, ac yn wir, bu'n llwyddiant ysgubol wrth feddwl bod nifer o dimau yn cynnwys disgyblion yn astudio Peirianneg Lefel A.

Enillodd y tîm wobr ariannol a'r gystadleuaeth - 'Y cyflwyniad mwyaf effeithiol o'r datrysiad dewisiedig' a gyllidwyd gan RWEnpower. Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r ysgol ennill gwobr yn y gystadleuaeth yma, megis yr Hat Trick!! Neu hyd yn oed Y Goron Driphlyg!!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý