Fel arfer, mae'r llun lliwgar wedi ei guddio o dan ddilledyn ac allan o'r golwg (tan fisoedd yr haf beth bynnag), ond fe synnech chi faint o bobol annisgwyl sydd wedi cael tatŵ - pwy sy'n eistedd wrth eich ymyl chi wrth ddarllen Y Lloffwr ar hyn o bryd? Ydych chi wedi gweld cefn eu hysgwydd neu dop eu braich yn ddiweddar?! Mae pobol yr ardal hon fel arfer yn mynd i Gaerfyrddin er mwyn cael tatŵ, at ŵr o'r enw Nobby. Mae 70% o'i gwsmeriaid ef yn ferched a'r rhestr aros yn faith iawn. Dim ond rhyw 4 person mae'n gallu gweithio arnynt bob dydd gan ei fod yn cymryd balchder mawr yn ei waith ac yn rhoi o'i orau bob tro. Ond pam bod mwy a mwy o bobol yn dymuno coel tatŵ y dyddiau hyn? Mae'n debyg mai ffasiwn yw'r prif reswm. Gyda ninnau'n byw mewn cymdeithas sy'n rhoi cymaint o fri i'r byd celeb-aidd, mae'n debyg ein bod ni am efelychu eu edrychiad nhw. Mae Nobby wedi cael sawl cwsmer yn gofyn am datŵ Celtaidd yn ddiweddar, ar ôl gweld yr actor George Clooney, yn y ffilm From Dusk Til Dawn. Mae rhai cwsmeriaid yn gofyn am datŵs digon gwahanol a bryd hynny mae'n rhaid i Nobby ddefnyddio ei synnwyr cyffredin. Mae e wedi gwrthod rhoi tatŵ siâp y swastika i un dyn, ac mae'n gwneud yn siŵr ei fod yn cadw at y gyfraith - dim tatŵ i blant o dan 18 oed. Tatŵ Dramor Beth mae'r tatŵ yn golygu mawn gwledydd eraill? Borneo Y tywyllaf yw'r tatŵ ar ferch, y prydferthaf yu gwelir gan gymdeithas. Siberia Mae'r llwythi, hyd heddiw, yn rhoi tatŵ i lawr eu cefn er mwyn gwella poen cefn. Samoa Mae'r tatŵs yn arwydd o allu dwyfol oddi mewn. Maori Hen draddodiad i beintio wynebau cyn mynd i ryfel. Tabŵ'r Tatŵ Y man mwyaf poenus : Arennau Lleiaf poenus : Top y fraich (dynion) a'r bronnau (merched) Patrwm mwyaf poblogaidd : Draig a phatrwm Celtaidd Gan : Heledd ap Gwynfor (Prosiect Papurau Bro.) Profiad personol- gallwch ddarllen profiad Siân Davies yn rhifyn Mawrth o'r Lloffwr.
|