Trefnodd Hywel Jones wibdaith 5 diwrnod o'r fro i tua 20 o bobl i Turkey & Tinsel i Barc Gwledig y Trosasachs yn yr Alban.
Taith tua 600 milltir o Landeilo.
Sefyll yng ngwesty'r Rob Roy - efe oedd Twm Siôn Cati'r Alban.
Yn ôl hanes, fe wnaeth sefyll yn yr adeilad yn ystod ei deithiau.
Yn ystod y wibdaith, fe wnaethom fwynhau mordaith mewn bad ar Loch Lomond, ymweld â distyll chwisgi enwog Glengoyne a'i flasu, ymweld â thref wlân enwog Callender ble oedd yna amrywiaeth o ddillad gwlân o safon uchel ar werth am bris rhesymol, pentref a chanolfan groeso'r Trossachs yn Aberfoyle, diwrnod cyfan i ymweld â'r brifddinas Caeredin.
Roedd adloniant traddodiadol bob nos yn y gwesty hyd ganol nos, talodd Siôn Corn ymweliad un noson gan roddi anrheg i bob un ohonom.
Cafodd pawb eu plesio yn enwedig am y pris rhesymol o £159 yr un.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |