Gwahoddwyd tua ugain o Gymry'r fro i drin a thrafod pynciau cyfoes. Ymhlith yr eitemau oedd "Y Clawdd a'i ddyfodol", "y Ganolfan Siopa Newydd - Dôl yr Eryrod" a chyflwr ariannol ein gwlad. 'Roedd y rhaglen dan ofal Dylan Jones a chafwyd trafodaeth fywiog a difyr a sawl cyfraniad gwerthfawr.
Y cynghorydd Aled Roberts oedd yn rhoi ochr Cyngor Sirol Wrecsam i'r materion.
Cyfrannwyd gan sawl un, gan gynnwys pobl ifanc, plant lleol, Liz Williams, Aled Pritchard, Gareth Davies-Jones, Gwynn Evans, Peter Aubrey ac ar ran Y Clawdd Alun Emanuel ac Emlyn Edwards.
Yn y llun gwelir Dylan Jones Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú a'i "feic" yn holi Gareth Davies-Jones gyda Aled Pritchard yn gwrando a Gwyn Evans yn y cefndir.
Teimlir i'r ardal hon gael ei hamddifadu gan y cyfryngau a gobeithiwn y daw cyfle arall i ymweld â Wrecsam yn fuan.
Er bod stiwdio yn y dref, anaml iawn y ceir eitem o'r fro.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |