Cafodd disgyblion Ysgol Bodhyfryd y pleser o gwmni Elizabeth Chakela o Ysgol Gynradd St.Saviour's yn Leribe, Lesotho am yr wythnos.
Roedd yr ymweliad yn rhan o brosiect Dolen Cymru sydd yn efeillio ysgolion o rannau gwahanol o'r byd.
Bu Elizabeth yn aros gyda teulu Mr Rhodri Jones am yr wythnos. Bu Elizabeth yn gwrando or amryw o gyflwyniadau gan ddosbarthiadau gwahanof yr ysgol ar themau amrywiol megis dŵr, ffermio, diddordebau.
Y bwriad yn hyn oedd i blant Bodhyfryd a Elizabeth ei hun fedru dod yn fwy ymwybodol o'r gwahaniaethau a'r pethau oedd yn debyg yn y ddwy wlad.
Yn ystod yr wythnos cafodd Elizabeth gyfle i weld ychydig mwy o Ogledd Cymru ar daith i Landudno, a chawsant noson i'w chofio mewn cyngerdd yn Ysgol Acton, gyda eitemau gan blant o'r dair ysgol a fu yn rhan o'r prosiect,sef Bodhyfryd, Acton ac Ysgol Uwchradd Maefor,Penfey.
Roedd yn brofiad gwerth chweil i ddisgyblion Bodhyfryd gael siarad â, a gwrando ar Elizabeth wrth iddynt ei holi am fywyd yn Lesotho.
Yn sicr fe wnaeth i bawb sylweddoli pa mor wirioneddol lwcus yr ydym ni yma yn Wrecsam a Chymru wrth gymharu bywyd yn yr ysgol ac yn cartref yn y ddwy wlad.
Y bwriad yn awr fydd i Mr Rhodri Jones fynd ar ymweliad i Lesotho yn y flwyddyn nesaf!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |