Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Harri Williams a Siôn Siôn y crwban
Mai 2010
Creaduriaid sy'n rhai da am ymateb i wres ac oerni yw crwbanod.

A go brin fod un gwell yn unman na Siôn o'r eiddo Harri Williams, Chwilog.

Yn un peth, fe gafodd ddigon o brofiad oherwydd y mae bellach dros ei drigain oed.

Mae Harri Williams yn cofio ei rieni yn mynd ar y trên i Fangor ac yn prynu Siôn yn siop yr hô1 am chweugain (deg swllt, hanner can ceiniog).

Yn 1958 y bu hynny ac yr oedd Si6n yn ddeg oed yr adeg honno.

Fe'i bedyddiwyd yn Siôn ond ni wyddis eto p'run ai gwryw ynteu benyw ydyw.

Fel rheol a Siôn i gysgu dros y gaeaf ar y drydedd wythnos ym Medi a deffro ar yr wythnos gyntaf ym Mawrth.

Y llynedd, oherwydd tynerwch yr hin, fe ddeffroes ym mis Chwefror, ond eleni, gan y bu mor ofnadwy o oer, fe swatiodd tan ddiwedd Mawrth.

Ei hoff fwyd yw dant y llew - ac mae digonedd o'r rheini y dyddiau hyn - afalau a letys. A'i ffrindiau pennaf yw cath drws nesa'.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý