Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Eurig Salisbury Gŵyl Tŷ Newydd
Mehefin 2007
Fe dywynnodd yr haul - dyna'r unig beth oedd y tu hwnt i'n rheolaeth a'r un peth oedd ei angen i goroni gŵyl lwyddiannus.
Roedd yr awyr agored yn rhan bwysig o'r ŵyl eleni. Dechreuwyd gyda noson wych yn Galeri gyda dau o'r goreuon am sgwennu am yr amgylchfyd, Jim Perrin a Robert Macfarlane, yn cael eu holi gan Mike Harding.

Cafwyd sgwrs am gynaladwyedd gan y bardd Robert Minhinnick, a gorffennwyd ar y dydd Sul gyda dwy daith gerdded a phnawn i'r teulu oll yng ngardd TÅ· Newydd.

Roedd hwn yn bnawn bendigedig gyda dros 100 yma yn mwynhau y storïwr Daniel Morden gyda cherddoriaeth y grŵp Newfolk, pypedau Cwmni Cortyn a chaneuon a cherddi Gwyneth Glyn.

Enillydd y gystadleuaeth newydd, Pencerdd Ty Newydd, oedd Eurig Salisbury.

Roeddynt yn cael eu beirniadu ar y cerddi a'u perfformiad ohonynt ac ym marn y ddau feirniad, T. James Jones ac Idris Reynolds, Eurig oedd y gorau o 10 bardd - llawer ohonynt yn feirdd hÅ·n a mwy profiadol. Ei wobr oedd "ffon y Pencerdd" - ffon dderw hardd wedi ei gwneud gan Elis Gwyn.

Cafwyd cinio Sul yng nghwmni'r Arglwydd Dafydd Elis- Thomas, gwrandawyd ar Jon Gower yn holi Mererid Hopwood, Eigra Lewis Roberts ac Angharad Price, cafwyd cyfle i holi Gwen Pritchard Jones am ei nofel Dygwyl Eneidiau, sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn a sawl digwyddiad arall yn y ddwy iaith.

Diolch i bawb gefnogodd yr ŵyl a diolch yn arbennig i'r Academi am eu cymorth ariannol ac ymarferol. Edrychwn ymlaen at yr ŵyl nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý