麻豆官网首页入口

Ffermdy Allt-y-Bela

top

Rhodres a Rhoddion y teulu Edwards.

Ym 1599, adeiladodd Roger Edwards estyniad tri llawr unigryw ar ffurf t诺r ar ei ffermdy, datblygiad a luniodd dueddiadau arddull yn yr ardal.

Daeth y ffermdy yn adeilad o bwys yn natblygiad pensaern茂aeth y Dadeni Cynnar. Ar 么l dechrau dadfeilio yn yr 20ed ganrif, cafodd Allt-y-Bela statws Gradd II* rhestredig yn y 1950au ac ar hyn o bryd mae'n cael ei adfer gan Ymddiriedolaeth Spitalfields.

Yr hyn sy'n ei wneud yn arbennig

Roedd i'r t欧 canoloesol gwreiddiol un llawr a chroglofft, ac roedd yn d欧 hir nodweddiadol 芒 ffr芒m nenfforch, yn cartrefu'r teulu a'r anifeiliaid i gyd o dan yr un to. Yn ogystal 芒 bod yn swnllyd, yn frwnt ac yn arogleuo, doedd yna ddim preifatrwydd bron i aelodau'r teulu. Yn hytrach nag addasu'r hen adeilad, mabwysiadodd Edwards syniadau newydd ei gyfnod gan adeiladu cyfres o ystafelloedd preifat, un ar bob llawr, wedi eu cynnwys mewn t诺r a ychwanegwyd at dde'r neuadd hir wreiddiol.

Ffyniant amaethyddol oedd y catalydd i ddulliau adeiladu'r Dadeni, yn enwedig ffermio tir 芒r, wrth i brisiau gwenith godi'n gyson yn ystod y 16eg ganrif. Roedd Roger Edwards yn gwybod y byddai ei adeilad yn adlewyrchu peth o'r p诺er a'r cyfoeth roedd wedi llwyddo i'w casglu fel ffermwr a thirfeddiannwr yn yr ardal. Er mai oes o arddangos oedd y Dadeni, roedd yn weithred eithriadol i adeiladu t诺r ar gyfer y pwrpas hwn yn unig ac nid ar gyfer amddiffyn. Yn fwy annealladwy byth roedd t诺r Edwards wedi ei guddio'n llwyr gan ddyffryn Wysg, heb fod ymhell o'r hen ffordd a redai o Frynbuga i Gas-Gwent, a dim ond o fannau agos iawn y gellid ei weld.

Mae nifer o nodweddion anarferol yn perthyn i'r t诺r, fel y simneiau sydd wedi eu gosod ar letraws, ffenestri 'pefel cadw' a grisiau pren cylchog a oedd yn cael eu ddefnyddio yn hen rannau a rhannau newydd yr adeilad, yn ymestyn o'r top i'r gwaelod.

Roedd gwydr wedi dod yn rhatach fel deunydd adeiladu gan ganiat谩u rhoi tair ffenestr ar bob un o'r lloriau is ac un yn y groglofft. Roedd cynllun cyfoes y ffenestri i raddau helaeth iawn yn cael gwared 芒 drafftiau, ac felly gosodwyd ffenestri a oedd yn agor. Hefyd fe geir pennau drysau wedi eu siapio, a chychwynnodd hyn y tueddiad i gael lefel o soffistigedigrwydd mewn addurno mewnol, oherwydd cyn hyn byddai drysau, fframiau drysau a phennau drysau wedi bod yn blaen ac yn ymarferol yn unig.

Parlwr mawr oedd llawr cyntaf yr adeilad, ystafell wely oedd yr ail a chroglofft oedd y trydydd. Roedd yr adeilad hefyd yn cynnwys seler seidr - cyflwynwyd gwneud seidr i Sir Fynwy tua'r cyfnod hwn, ac roedd nifer o dai newydd y cyfnod yn cynnwys lle arbennig i gadw'r barilau. Fel arfer fe olygai hyn islawr, ond gan bod Allt-y-Bela wedi ei adeiladu ar lawr dyffryn (nid ar ochr mynydd defnyddiol), roedd y llawr cyntaf i gyd wedi ei roi i gadw seidr a gallai hyn fod wedi egluro uchder y t诺r newydd.

Roger Edwards y cymwynaswr

Ni chyfyngodd Edwards wariant ei gyfoeth sylweddol ar ei brosiectau adeiladu'n unig. Cafodd y tai elusen yn Llangeview eu sefydlu yn 么l ei gyfarwyddiadau er mwyn rhoi cartref i 'bersonau anghenus' tri phlwyf lleol. O dan dermau Elusen Roger Edwards, roedd y rhai oedd yn byw yn y tai elusen yn 'ddeiliaid trwy drwydded', nid tenantiaid, ac roedden nhw'n talu 'cyfraniad cynnal a chadw', nid rhent. Roedd yna gapel ynghlwm wrth yr adeilad, gyda chaplan wedi ei apwyntio gan yr ymddiriedolwyr.

Sefydlodd Edwards dai elusen yn Newland, Swydd Gaerloyw, sy'n dal i fod 芒 nifer o'r nodweddion gwreiddiol o'r 17eg ganrif.

Hefyd, fe wnaeth Edwards, a fu farw ar 28ain o Fawrth 1624, ddarpariaeth yn ei ewyllys i sefydlu'r Ysgol Ramadeg ym Mrynbuga, ac mae yna gofeb iddo yn y fynwent eglwys lleol.

Dirywiad a chwymp

Cafodd Allt-y-Bela ei drosglwyddo i nifer o ddisgynyddion, a chafodd ei werthu i ffermwr lleol yn yr 20ed ganrif. Erbyn y 1980au, roedd yr adeilad yn adfail llwyr, 芒'r t诺r yn cael ei ddal i fyny gan sgaffaldiau dros-dro a chan y grisiau.

Wedi ei adael yn segur am dros 30 mlynedd, ac wedi ei ddefnyddio fel storfa grawn ac fel fferm, roedd dybryd angen atgyweirio ar y t诺r. Daeth cyflwr Allt-y-Bela i sylw Cyngor Sir Fynwy, a geisiodd wella'r sefyllfa trwy gyflwyno rhybuddion atgyweirio a dilyn y dulliau o weithredu cyfreithiol a fynnir gan statws rhestredig yr adeilad. Ond, roedd y rhain yn aflwyddiannus, ac yn 2001, cyflwynodd y Cyngor orchymyn pryniant gorfodol ar yr adeilad, a'i drosglwyddo i ofal Ymddiriedolaeth Spitalfields ar gyfer ei adfer.

Yr adferiad

Elusen yw'r Ymddiriedolaeth Spitalfields sy'n adfer adeiladau o bwys pensaern茂ol a hanesyddol. Eglura Tim Whittaker, Gweinyddwr yr Ymddiriedolaeth, sut mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio:

"Mae gennym arbenigedd ac rydym yn gallu gofyn am grantiau, ond does gennym ni mo'r arian i brynu'r adeiladau - dyma un o'r rhesymau rydym yn cymryd adeiladau ar ddiwedd eu hoes. Rydym yn arbenigo mewn adeiladau na fyddai unrhyw un arall yn eu hadfer".

Pan fo hynny'n bosibl mae'r Ymddiriedolaeth yn ceisio atgyweirio - nid rhoi rhywbeth yn lle - elfennau o'r adeilad, gan ddefnyddio defnyddiau traddodiadol megis cerrig calch yn hytrach na sment. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn treulio'r ddwy neu dair blynedd nesaf yn atgyweirio ac yn adfer y to, y waliau a'r lloriau gan ddefnyddio'r technegau a'r defnyddiau gwreiddiol.

Dyma brosiect cyntaf Ymddiriedolaeth Spitalfields y tu allan i Lundain. "Fel elusen, fel arfer rydym yn cael adeiladau yn Nwyrain Llundain wedi eu rhoi i ni, ond ar hyn o bryd does gennym ni ddim prosiectau yn Llundain. Mae Allt-y-Bela yn bwysig i Gymru yn hanesyddol ac yn bensaern茂ol" meddai Mr Whittaker.

Er ei fod yn gweld ymhell ar y pryd, ni allasai Roger Edwards fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ei d欧 i ni heddiw. Gellir gweld nodweddion a welwyd gyntaf yn Allt-y-Bela mewn adeiladau mwy diweddar yn Sir Fynwy ac yn ne ddwyrain Cymru.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.