麻豆官网首页入口

Plas Mawr, Conwy

top
Plas Mawr, Conwy

Dydych chi byth yn rhy hen i gyflwyno hanes eich tref i ymwelwyr. Dyma sylwadau Llewelyn Groom o Gonwy am ei waith ym Mhlas Mawr.

"'Dwi'n gwirfoddoli ym Mhlas Mawr, Conwy, unwaith yr wythnos. 'Dwi'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser yn sefyll o gwmpas mewn gwahanol ystafelloedd yn helpu ymwelwyr sy'n mynd ar goll wrth ddefnyddio'r audio tour! 'Da ni hefyd yn ateb cwestiynau am y teulu neu'r dodrefn - unrhyw beth am hanes y t欧.

Mab John Wynn o Wydir oedd Robert. Gadawodd ei daid, Meredith Wynn, Eifionydd a symud i fyny i Dolwyddelan, priodi ac yn hwyrach, ar 么l lot o waith caled yn clirio lladron a phopeth o'r tir, mi brynodd Gwydir yn Llanrwst ac adeiladu'r castell yno.

Prif siambr Plas Mawr - Cadw.Crown Copyright. Y siambr mawr ydy fo hoff le. Dyma brif ystafell y t欧. Mae wedi cael ei ail-wneud yn y lliwiau gwreiddiol, sy'n arbennig i'r amser. Mae'n lle braf i ddod, digon o le i bobl allu eistedd i lawr, gofyn cwestiynau ac ymlacio. Chlywais i 'rioed neb yn cwyno am yr ystafell yna, er does neb llawer yn cwyno am y t欧.

Roedd Robert wedi gorfod mynd i ffwrdd i Lundain i weithio gan nad oedd llawer o gyfle iddo gael pres gan ei dad am mai fo oedd y trydydd mab - roedd gan ei dad 29 o blant, er ddim i gyd efo'r un wraig wrth gwrs!

Roedd Robert Wynn yn briod i Dorothy Williams, gweddw i William Williams o Cochwillan ger Bangor, ac yn ferch i Syr William Griffiths o Penrhyn. Fe briododd hi Robert Wynn pan oedd hi'n h欧n, gyda phump o blant yn barod.

Pan fu hi farw, priododd Robert wraig lawer iau na fo pan oedd yn 69 oed a rhoddodd hi fabi iddo bob blwyddyn am chwe mlynedd! Dyma'r adeg cyn y teledu, doedd dim llawer arall i'w wneud!

Cafodd rhannau o'r t欧 eu hadeiladu ar adegau gwahanol. Roedd t欧 ar y tir yma yn barod, cyn i Robert Wynn ei brynu yn 1570. Ddaru o ddim gwneud dim efo fo am ryw chwe mlynedd nes iddo gael darn arall o dir, ar ran ogleddol y stryd, ac adeiladu t欧 yno a chwalu'r t欧 gwreiddiol. Dechreuodd o adeiladu Plas Mawr yn 1576 ac aeth y gwaith cyntaf ymlaen tan 1580.

Dyn arall oedd piau'r tir sydd gyferbyn 芒'r Stryd Fawr. Fe fu farw yn 1985 ac fe brynodd Robert Wynn ei dir, chwalu'r t欧 oedd yna ac adeiladu'r gatehouse. Roedd dipyn mwy na hynny, er ei fod yn d欧 gi芒t gan ei fod ar y ffordd i mewn i'r t欧 mawr, a dyna lle roedd y prif stiward a'i deulu yn byw.

Mae pethau wedi newid ym Mhlas Mawr wrth gwrs - mae pethau'n newid yn nh欧 pawb dros y blynyddoedd, ac mae'r t欧 yma wedi bod yma ers dros 400 mlynedd! Mae'r stabl a'r beudy wedi mynd, ond maen nhw newydd adeiladu gardd bach ar ochr y t欧. Mae pethau wastad yn newid.

Rydw i'n 77 r诺an ac wedi wedi ymddeol ers pymtheg mlynedd r诺an ac yn mwynhau'r gwaith yma. Mae pobl o dros y byd i gyd yn dod yma. Mi fydda i'n dweud wrth Americanwyr "just try and remember, this house was completed when the state of Virginia was first founded".


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.