麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bendithio'r dyfroedd
Lynda Ganatsiou yn olrhain hanes un o arferion y Calan yng Ngwlad Groeg

Newydd gychwyn mae 2006 ond dyma ni yng Ngwlad Groeg yn cael cyfle i ddathlu unwaith eto.
Golyga hyn fod pob un i ffwrdd o'i waith yn dathlu heddiw, Ionawr 6.

Trwy'r wlad bu plant yn canu Calanda - math o ganu calennig ond ei fod yn arbennig ar gyfer Gŵyl Ystwyll.

Gellir eu gweld ar y diwrnod hwn yn mynd o gwmpas y tai yn canu caneuon traddodiadol sy'n gysylltiedig â'r diwrnod hwn yn unig.

Cân i bob gŵyl
Wrth fynd o dŷ i dŷ fe fyddant yn cnocio ar y drws yn gyntaf a gofyn wedyn: Gawn ni ganu?

Does neb yn gwrthod wrth gwrs ac yn ardal Thrace yng ngogledd-ddwyrain y wlad mae'r caneuon hyn yn dyddio'n ôl cyn belled â chyfnod Homer a heb newid llawer ers hynny.


Yng Ngroeg cenir carolau noswyl Nadolig, nos Calan ac yna ar fore gŵyl Ystwyll gyda phob gŵyl â'i chân arbennig.

Bendithio'r dyfroedd
Bydd y bobl fwyaf crefyddol yn dilyn y traddodiad gwreiddiol ond eraill yn dathlu gŵyl eu henwau yn unig.

Mae gŵyl Theofania (Theoffania neu Bendithio'r Dyfroedd neu Ta Fota (Ffota - Y Goleuni) yn gydradd â Gŵyl Ystwyll neu'r Seren Ŵyl.

Yn ôl y ffydd Uniongred yng Ngroeg mae Gŵyl Ystwyll yn adeg o symbolaeth grefyddol a sylwedd.

Coffau bedyddio Iesu Grist yn yr Iorddonen mae Theofania.

Y noson cyn yr ŵyl bydd gwasanaeth cyntaf Theofania yn yr eglwys.

Yr amser gynt, byddai'r offeiriad yn mynd o dŷ i dŷ gyda chroes a brigyn o fasil ar gyfer holl ystafelloedd y tŷ.

Hen arferiad ar ynys Creta sydd wedi mynd bron yn angof erbyn hyn oedd paratoi'r ffotocolifa - sef gwenith wedi ei ferwi â phys, ar noswyl Theofa! Nia. Bwytawyd y ffotocolifa nid yn unig gan y bobl ond yn ogystal fe'i rhoddwyd i'r gwartheg a'r defaid ac ystyriwyd hyn yn fodd i sicrhau iechyd a lwc dda.

Gorymdaith hir
Y diwrnod canlynol - Ionawr 6 - y mae'r sancteiddio mawr ac yn union ar ôl offeren yn yr eglwys leol gyda gorymdaith hirfaith sy'n dilyn unrhyw lwybr sy'n arwain at ddŵr boed yn llyn, pwll, cronfa, afon neu hyd yn oed y môr.

Ar flaen yr orymdaith mae delwau gyda'r offeiriad yn union y tu ôl wedi eu gwisgo yn eu dillad mwyaf ysblennydd.

Dilynir y rhain gan bobl bwysig y gymuned ac yn olaf gan y credinwyr.

Yn y trefi mawrion bydd cerddoriaeth a milwyr yn rhan o'r orymdaith.

Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd y prif offeiriad yn bendithio'r dŵr trwy daflu croes iddo.

Wedyn, bydd y mwyaf beiddgar yn neidio i'r dŵr rhewllyd i ddod o hyd i'r groes.

Bechgyn ieuanc fydd y rhain a'r rhan fwyaf ohonynt yn frodorion y pentref neu'r dref lle bydd y dathlu.

Nid cystadleuaeth mo hon ond mater o anrhydeddu eu teulu a'u crefydd.

Mynd allan mewn cwch Credir y bydd y sawl sy'n dwyn y groes i'r wyneb yn ffodus o ran iechyd a chyfoeth gydol y flwyddyn.

Yn ogystal, bydd llawer o gychod a llongau yn cael eu bendithio ac wedi'r seremoni bydd y bobl yn cael eu diddanu â cherddoriaeth, dawnsio a bwyd.

Mewn cwch
Pan oedd Andreas, y mab yn gweini yn y fyddin ar ynys Samos gwelodd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ar lan y môr a'r offeiriad yn mynd allan mewn cwch i daflu'r groes i'r dyfnderoedd.

Pan oedd y plant yn fach a ninnau'n byw ar bromenâd tref Thessaloniki byddai'n hawdd dilyn y gwasanaeth yn flynyddol a gwylio'r bobl yn heidiau yn dilyn y groes.



Cristos mewn glas - cyn mentro i'r dyfroeddYma, fodd bynnag, yn wahanol Samos nid yw'r offeiriad yn mentro allan mewn cwch ond yn taflu'r groes i'r môr o ddiogelwch llwyfan a godwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Yma yn Thermi, sydd ddim ar lan y môr cronfa ddŵr ein tref fechan ydi canolbwynt y gweithgareddau.

Tra 'roedd y tywydd o'n plaid fe aeth George y gŵr a minnau i wylio Christos, mab un o'n ffrindiau gorau, yn neidio i'r dŵr rhewllyd.

Yn anffodus bu bachgen ifanc arall yn gyflymach nag ef yn adfer y groes.

Ond chware teg i Cristos o fod â'r gwrhydri i roi cynnig arni bob blwyddyn boed law neu heulwen!





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy