麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Golygfa o Wlad Groeg Llythyr o Wlad Groeg
Cymraes yn darganfod fod yna drafferthion wrth deithio'r byd

Dydd Gwener, Ebrill 7, 2000

Dydi crwydror byd ddim heb ei drafferthion - a does neb yn gwybod hynny yn well na Lynda Ganatsiou, Cymraes o Bontarddulais yn wreiddiol, ond yn awr yn byw yng Ngwlad Groeg. Bu hi yn son wrth Gymru'r Byd am rai or helyntion a gafodd wrth deithio.

Pan yn Stockholm nid yn unig cafodd ei thrwydded deithio ei dwyn ond aeth y "perchennog newydd" i mewn i'r ystad frenhinol efo hi.

"Pan gafodd ei hatal a'i holi fe dynnodd allan ei thrwydded deithio Brydeinig a phawb yn darllen am Lynda Jones ym mhlas y Brenin yn y papurau dyddiol drannoeth; a minnau druan bach, heb fod yn agos i'r lle," meddai Lynda.

'Fy ngwylio yn Lenningrad'
Ond dim ond dechrau gofidiau oedd hynny:

"Wedi cael trwydded newydd, fe deithiais i Lenningrad, ar awdurdodau yn fy ngwylio fel rhywun gweddol od am rhyw rheswm!! Roedd mynd i mewn yn haws na gadael. Pan geisiais fynd oddi yno i Fosco, gadawsant i weddill y grwp fynd, ond pederfynodd y gwarchodlu fy nal i yn ôl, (mam fach!!) gan fod y rhan yma o'r tocyn ar goll. Diwedd y gân oedd iddynt fy ryddhau ond dim ond wedi oriau o holi."

"Yna, helynt yn yr eglwys am imi wrthod cusanu llaw yr Unben!! Teimlais fel Daniel yn cael ei daflu i ffau'r llewod, am iddo beidio addolir delw!!!

Dilyn y lleidr
"Digwyddiad arall oedd lladrad yn fy llety. Y diwrnod canlynol fe welais fenyw yn gwisgo fy nghôt.

"Sut roeddwn yn gwybod mai fy nghôt i oedd hi? Wel, roeddwn wedi ei gwnio fy hun. Felly, dyma fi dan ddylanwad Conan Doyle yn newid fy ngalwedigaeth ac yn troi yn Sherlock Holmes Rhif 2 !!!

"Dilynais y ddynes hon i fynyr grisiau marmor oer, gan nodi y cyfeiriad y bu iddi fynd iddo; cuddio wrth i ddrws y fflat agor, a chlustfeinio y tu allan ar ôl iddo gau.

"Rhedais nerth fy nhraed i alwr Heddlu, ond rhaid oedd sefyll ddydd yn hwy i gyhoeddi papur archwilio. Diwedd yr helbul oedd i'r lladron werthu fy mhethau personol er mwyn cael arian i brynu cyffuriau a'r unig beth allai'r Heddlu ei wneud oedd diolch imi am ddarganfod cylch newydd o fasnachwyr cyffuriau na wyddent amdano!"

Priod â Groegwr
Erbyn hyn yn briod a Groegwr eglurodd Lynda mai ffurf fenywaidd o Ganatsios yw Ganatsiou.

Wedi gadael Pontarddulais bu'n astudio yng Ngholeg Addysg Caerdydd, (1970 1973) ac yn dysgu yno am flwyddyn cyn codi ei hadain.

"Gyntaf oll, yn 1974, fe fum am fis yn Ne Affrica ac wedyn yn athrawes dysgu Saesneg fel ail iaith i oedolion yn Stockholm, Sweden.

"Er bod y gwaith hwn yn fendigedig roedd hedfan wedi cael y gorau arnaf ac nid oedd stopio yn awr a cheisiais am swyddi yn Awstralia ac yn Nhoronto, Canada.

"Fe gefais fy nerbyn yn y ddau. Fodd bynnag, wedi bod yn Stockholm am ychydig fisoedd yn unig cwrddais a Groegwr bach or enw George.

"Fe fu i George wneud argraff go fawr arnaf, maen debyg. Do wir, fe gipiodd fy nghalon.!!!!

"Roedd yntau yn astudio yr adeg hon. Felly, fe roddais heibio y syniad o fynd i Awstralia a Chanada ac ymestyn fy nghytundeb yn Stockholm am flwyddyn fel y byddai tymor George a fy nghytundeb i yn dirwyn i ben yr un pryd."

I Wlad Groeg yr aeth y ddau wedyn.

"Rwyf wedi bod yma ers Awst 1976 ac yn byw mewn pentref bach or enw Thermi y tu allan i dref Thessaloniki, yng ngogledd y wlad. Fe fu inni briodi flwyddyn yn ddiweddarach, yn Awst 1977.

"Rwy'n dal i ddysgu Saesneg fel ail iaith, 'does dim gofyn am yr iaith Gymraeg yng Ngwlad Groeg !!!!

"Gyda llaw, mae yna dair merch o Gymru yn byw o fewn pump i ddeng munud or ty. Fodd bynnag, Cymry 'dwad' ydyn nhw a ddim yn siarad yr iaith.

Cadw cysylltiad a Chymru
"Mae gennym ferch, Ioanna, yn gwneud ei gradd eleni ym Mhrifysgol Leeds. Newydd gael ei derbyn i wneud MSc yn yr adran Civil Engineering i wneud Waste Management, fe fydd yn dal yno y flwyddyn nesa.

"Wedi bod yng Nghymru bob blwyddyn er eu geni, mae'r plant yn teimlo atynniad cryf ir wlad, ac yn falch o ddweud eu bod yn hanner Cymry a hanner Groegiaid.

"Pan ddaeth tro Andreas i fynd ir brifysgol dewisodd Abertawe ac mae ar hyn o bryd yn gorffen ei flwyddyn gyntaf mewn Peirianneg Cemegol ac yn teimlo'n hollol gartrefol yno.

"Cartref oddi cartref," meddai.

"Gallwch ddychmygu pa mor braf oedd darllen y newyddion yn y Gymraeg arlein am y tro cynta gan nad oes fawr o gysylltiad gennyf ar iaith bellach. Does neb i siarad Cymraeg â mi yma.

"Er imi fod oddi cartre am dros bum mlynedd ar hugain bellach, bydd hiraeth yn codi arnaf o bryd i'w gilydd - yn enwedig ar fore Sul wrth ddodi corau meibion ymlaen i ganu rhai o emynau enwocaf Cymru.

"Ond, ni ddaw ddoe byth yn ôl ac ni welaf fy hun yn dychwelyd i Gymru fwyn ond daw ambell i linell im hatgof nawr ag yn y man, yn enwedig y rhain :

Cymru fach i mi
Bro y llys a'r llynnoedd
Corlan y mynyddoedd
Hawdd ei charu hi

Yna: - Gwell na thiroedd hud ydyw erwau Cymru Cysegr, salm ac emyn Porth y nef yw hi."




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy