麻豆官网首页入口

S4C: Manylion dyraniad ffi'r drwydded

  • Cyhoeddwyd
S4C, sgrin 麻豆官网首页入口Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fis Hydref y llynedd mai'r 麻豆官网首页入口 fyddai'n gyfrifol am ariannu S4C yn y dyfodol

Mae Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 wedi cyhoeddi manylion yngl欧n 芒 faint o arian y bydd S4C yn ei dderbyn gan y gorfforaeth drwy ffi'r drwydded.

Dydd Llun cyhoeddodd Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 lythyr gan y cadeirydd, Yr Arglwydd Patten, at gadeirydd S4C, Huw Jones.

Mae'r llythyr yn amlinellu'r dyraniad y mae'r ymddiriedolaeth yn bwriadu ei wneud o ffi'r drwydded i S4C dros ddwy flynedd olaf setliad presennol ffi trwydded y 麻豆官网首页入口.

Dywed yr ymddiriedolaeth fod y dyraniad yn ddibynnol ar gytundeb rhwng Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口, S4C a Llywodraeth y DU ar drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd S4C yn y dyfodol.

Roedd y symiau ar gyfer 2013/14 a 2014/15 eisoes wedi cael eu gosod.

Dyw ffigurau'r ymddiriedolaeth ddim yn cynnwys 10 awr yr wythnos o raglenni y mae'r 麻豆官网首页入口 yn ei ddarparu i S4C fel rhan o'r drwydded ar hyn o bryd.

Mae'r rhaglenni hynny werth tua 拢23 miliwn y flwyddyn, ond mae disgwyl i'r ffigwr yna ostwng i 拢20 miliwn erbyn 2013.

'Cyfraniad newydd a phwysig'

Dyma fanylion y dyraniad y mae'r ymddiriedolaeth yn bwriadu ei wneud o ffi'r drwydded i S4C dros y pedair blynedd nesa':

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran S4C fod Awdurdod y Sianel yn cwrdd nos Lun a'u bod yn "nodi'r telerau cyllido sy'n cael eu hargymell gan Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口".

Ychwanegon nhw fod hyn yn "gyfraniad newydd a phwysig i'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal" ac y byddan nhw'n gwneud sylw pellach ar y mater maes o law.

Cyhoeddodd Adran Ddiwylliant San Steffan newid yn nhrefn ariannu S4C 'n么l ym mis Hydref y llynedd, gan olygu fod y Sianel yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb o 拢100 miliwn y flwyddyn.

Mae mudiadau iaith a rhai gwleidyddion yn dadlau y bydd y newidiadau yn effeithio ar annibyniaeth y Sianel.

'Angen sicrwydd'

Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Llun, fe groesawodd Plaid Cymru'r ffaith fod nifer o newidiadau diweddar i'r cynlluniau, ond bod angen sicrwydd pellach o ran cyllid er mwyn diogelu dyfodol y Sianel.

"Rydym ni hefyd angen sicrwydd na fyddai'r 麻豆官网首页入口 yn dal cyllid yn 么l petai'r Ymddiriedolaeth yn anghytuno 芒 phenderfyniadau golygyddol neu gorfforaethol S4C. Rydym ni angen gwybod beth fydd yn digwydd i gyfraniad 拢7 miliwn y llywodraeth yn ystod dwy flynedd olaf y setliad a beth fydd yn digwydd wedi'r siarter."

Dywedodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Trwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi galw ar i'r gwleidyddion a'r darlledwyr i wrando ar lais bobl Cymru, ond dyw hynny heb ddigwydd. Rydyn ni wedi ennill consesiwn heddiw, ond dyw'r trafodaethau rhwng darlledwyr tu 么l i ddrysau caeedig heb fod yn ddemocrataidd. Pobl tu allan i Gymru sydd yn penderfynu ar ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg, dyna pam mae'n angenrheidiol bod y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru."

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol