Ymddiriedolaeth am weld S4C yn gwneud arbedion fel 麻豆官网首页入口 Cymru

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 Wales

Disgrifiad o'r llun, Y 麻豆官网首页入口 fydd yn gyfrifol am ariannu S4C o ffi'r drwydded

Fe ddylai S4C wneud arbedion tebyg i rai 麻豆官网首页入口 Cymru pan fydd yn cael ei hariannu gan y drwydded deledu, yn 么l cynnig Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口.

Mae'r ymddiriedolaeth wedi dweud eu bod wedi cynnig trefniant cyllidol "lled sefydlog" i'r sianel.

Roedd aelodau Awdurdod S4C yn cyfarfod nos Lun i drafod cyhoeddiad Ymddiredolaeth y 麻豆官网首页入口 a fyddai'n gweld S4C yn cael llai o arian erbyn 2016/17 nag yn 2013/14.

Mae disgwyl datganiad gan yr Awdurdod ddydd Mawrth.

Mae Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am gyllid y sianel o'r Adran Diwylliant, cyfryngau a chwaraeon i'r 麻豆官网首页入口.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod y dyraniad yn ddibynnol ar gytundeb rhwng Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口, S4C a Llywodraeth y DU ar drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd S4C yn y dyfodol.

Fe ddylai'r cyfraniad fod yn "lled sefydlog" am weddill cyfnod olaf setliad presennol ffi trwydded y 麻豆官网首页入口 yn 么l Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Yr Arglwydd Patten.

Ond dywedodd fod rhaid i S4C "gyflawni'r un lefel o effeithiolwrydd ag y mae'r Ymddireidolaeth yn ei osod ar 麻豆官网首页入口 Cymru".

"Mae cynnig y cyllid yma yn adlewyrchu'n hymrwymiad i gefnogi gwasanaeth cryf yn y Gymraeg," meddai.

Dyw ffigurau'r ymddiriedolaeth ddim yn cynnwys 10 awr yr wythnos o raglenni y mae'r 麻豆官网首页入口 yn ei ddarparu i S4C fel rhan o'r drwydded ar hyn o bryd, fel Newyddion a Pobol y Cwm.

Mae'r rhaglenni hynny werth tua 拢23 miliwn y flwyddyn, ond mae disgwyl i'r ffigwr yna ostwng i 拢20 miliwn erbyn 2013.

Ychwanegodd Yr Arglwydd Patten y gallai S4C warchod ei chyllid drwy'r posibilrwydd o gynyddu'r arian o gomisiynu rhaglenni annibynnol petai'n "cyd-weithio gyda'r 麻豆官网首页入口 i atal dyblygu gweithredol".

Mae'r 麻豆官网首页入口 eisiau rhan yn y broses o apwyntio awdurdod S4C.

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru ar Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口, fod hi nawr yn amser "i ddod at ein gilydd" gan fod pobl Cymru "wedi eu rhwygo ar y mater am beth amser".

"Dwi'n credu bod hwn yn ddyraniad hael ac yn arwydd o ewyllys da tuag at y sianel a'r gynulleidfa Gymraeg gan yr ymddiriedolaeth," meddai.

"Mae'n amser i symud ymlaen.

"Mae'n sefyllfa anodd nad oedd neb wir ei eisiau."