麻豆官网首页入口

S4C: 10 swydd arall i fynd

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb

Bydd S4C yn colli 10 o'u staff yn dilyn ail rownd ail strwythuro'r sianel.

Y llynedd cyhoeddodd y sianel fod 29 o aelodau staff i adael eu swyddi o dan gynllun diswyddo gwirfoddol y Sianel.

Mae'r sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb o 24% dros bedair blynedd o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan.

Cyhoeddodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C y newidiadau i D卯m Rheoli a strwythur adrannol y sianel ddydd Mawrth.

Ail strwythuro

Y gred yw y bydd tri o'r 10 swydd fydd yn cael eu colli ynghlwm 芒 thorri nifer t卯m o gyfarwyddwyr y prif weithredwr y sianel o saith i bedwar.

Bydd natur a ffurf yr adrannau yn newid ac mae disgwyl y bydd toriadau pellach i niferoedd staff.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd prif weithredwr S4C y bydai'r strwythur newydd yn creu 'hinsawdd gyffrous'

Erbyn cwblhau'r newidiadau arfaethedig fe fydd gostyngiad sylweddol wedi bod yn lefelau staffio S4C er 2010.

Ddiwedd y llynedd bu gostyngiad o 165 i 133 o ganlyniad i gynllun diswyddo gwirfoddol, ac mae disgwyl y bydd gwir ostyngiad o 10 swydd arall o ganlyniad i'r ail strwythuro arfaethedig.

Fel rhan o'r newid bydd nifer o swyddi yn cael eu hail-ddiffinio a bydd rhai swyddi newydd yn cael eu hysbysebu maes o law. Bydd cyfnod o ymgynghori gydag unigolion a'r undeb perthnasol cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym.

Materion busnes

Gyda'r newidiadau fe fydd swyddogaethau Cyfarwyddwr Materion Busnes a Chyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu yn dod i ben, a bydd swydd Cyfarwyddwr Anweithredol ar y T卯m Rheoli yn cael ei dileu.

Y T卯m Rheoli newydd fydd:

  • Ian Jones, Prif Weithredwr

  • Kathryn Morris, Cyfarwyddwr Cyllid

  • Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys

  • Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau

  • Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol

Bydd Phil Williams Ysgrifennydd Awdurdod S4C yn parhau i fynychu cyfarfodydd T卯m Rheoli S4C fel arsyllwr.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn effeithio'n fwyaf ar strwythur yr Adran Gynnwys fydd o hyn ymlaen yn ymgorffori rheoli cynnwys, cyfryngau digidol, cyflwyno a hyrwyddo ar sgrin, cynllunio ac ymchwil yn ogystal 芒 chomisiynu.

Bydd yr Adran Gyfathrebu yn cynnwys holl elfennau cyfathrebu ar draws gwasanaethau S4C, gan gynnwys cyfathrebu Corfforaethol a gofal am Bartneriaethau.

Bydd materion busnes a masnachol yn dod yn rhan o'r Adran Gorfforaethol a Masnachol.

Prif Swyddog Technegol yn atebol yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr fydd yn gyfrifol am Ddarlledu a Dosbarthu a Thechnoleg Gwybodaeth.

'Hinsawdd gyffrous'

Dywedodd Ian Jones: "Mae'r ail strwythuro yn ddechrau ar broses i baratoi S4C ar gyfer dyfodol cyfnewidiol a llawn her.

"Mae'n broses fydd yn esblygu ac addasu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ond y nod yw gosod y gwyliwr yng nghanol popeth sy'n bwysig i S4C drwy gynnig cynnwys o'r ansawdd gorau posib fydd ar gael unrhyw bryd ar bob llwyfan posib.

"Cynnwys, ymchwil a marchnata a'n perthynas gyda'n gwylwyr a phartneriaid eraill fydd y sail i'n cynlluniau datblygu i'r dyfodol.

"Dwi'n si诺r y bydd y strwythur newydd yn creu hinsawdd gyffrous fydd yn hybu creadigrwydd a beiddgarwch tra ar yr un pryd yn cynnig elfen o sefydlogrwydd a chynllunio hir dymor."

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid drwy grant oddi wrth y llywodraeth oedd yn 2009-10 werth tua 拢100 miliwn.

Fel rhan o'r o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd hefyd y byddai'r 麻豆官网首页入口 yn bennaf gyfrifol am ariannu'r Sianel ar 么l 2013.

Mae Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar newidiadau i strwythur a chylch gorchwyl y ddau ddarlledwr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol