Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnig cyngor wedi'r llifogydd

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae'r d诺r a charthffosiaeth wedi lledu i bob math o lefydd ac eitemau yng nghartrefi a charafannau pobl

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal sesiynau galw heibio i helpu pobl Ceredigion a de Gwynedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddar.

Bydd swyddogion ar gael yn Y Borth, Bryncrug, Pennal, Talybont, Aberystwyth a Chapel Bangor i rannu gwybodaeth a chyngor i bobl ddydd Mercher a dydd Iau.

Yn ystod y llifogydd yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion ar Fehefin 9, cafodd 150 o bobl eu hachub gan y gwasanaethau brys ac roedd o leiaf 1,000 yn gorfod symud i fan diogel.

Bu'n rhaid i nifer o bobl dreulio'r noson gyda ffrindiau neu mewn gwestai ar 么l i'w cartrefi a'u carafanau gael eu dinistrio.

Wrth lansio ap锚l o fewn dyddiau i'r llifogydd, dywedodd Arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, mai ei gobaith yw gallu cynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef i gael trefn ar eu bywydau cyn gynted 芒 phosibl.

Dywedodd Mike Davies o Asiantaeth yr Amgylchedd y bydd y sesiynnau yn gyfle iddyn nhw fel asiantaeth hefyd ddysgu am yr hyn ddigwyddodd yn ogystal 芒 chynnig cymorth.

Mae aseswyr yswiriant wedi ymweld 芒 chymunedau'r sir ac mae rhai trigolion wedi cael clywed y bydd rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi am hyd at chwe mis wrth i'r difrod gael ei asesu a'u hatgyweirio.

Dywedodd Rhiannon Copeland, o Gr诺p Meddygol Ystwyth, bod y sefyllfa wedi bod yn "anhrefnus".

Fe ddifrodwyr eu meddygfa gan lifogydd.

"Roedd 'na 3-5 troedfedd o dd诺r yn y feddygfa ar y dydd Sadwrn," eglurodd.

"Yn ffodus roedd gan Brifysgol Aberystwyth adeilad gwag a gafodd ei gynnig i ni gan fod ein meddygfa wedi ei ddifrodi.

"Bu'n rhaid i ni symud yno dros dro."

Mae gan y feddygfa 9,000 o gleifion ac maen nhw wedi cael lloches bellach bum milltir i ffwrdd ym Mhenrhyncoch erbyn hyn.

Carthffosiaeth

"Yn ffodus roedd cofnodion y cleifion ar gyfrifiaduron ac ar lawr cyntaf y feddygfa.

"Mae wedi bod yn dipyn o brofiad.

"Wyddon ni ddim am faint fyddwn ni yma, gobeithio chwe mis ond fe all fod yn 12 mis."

Mae'r bwrdd iechyd lleol wedi sicrhau gwasanaeth bws arbennig i gleifion gyrraedd y feddygfa newydd.

Disgrifiad o'r llun, Bydd Y Gwirfoddolwyr yn un o'r bandiau fydd yn perfformio

"Ar y cyfan prin iawn o bobl sydd heb gadw at eu hapwyntiadau," ychwanegodd.

Eglurodd Jason Hughes, sy'n byw ym mhentref Dol-y-bont, bod y system carthffosiaeth wedi llygru popeth.

"Mater o amser yw hi," meddai.

"Dwi'n gwybod am bedwar o bobl sydd ddim yn gallu dychwelyd i'w heiddo tan y bydd popeth wedi ei ddatrys.

"Mae'r d诺r a'r carthffosiaeth wedi mynd i bobman."

Yn y cyfamser fe fydd bron i 20 o grwpiau yn perfformio mewn gig 12 awr i godi arian ar gyfer yr unigolion a chymunedau sydd wedi dioddef oherwydd y llifogydd dinistriol yng ngogledd Ceredigion.

Bydd y gig ar Fehefin 23 rhwng 12am a 12pm yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Sioe ffasiwn

Dywedodd trefnydd y gig, Bob Maycock, bod yr ymateb wedi bod yn wych i feddwl mai dim ond wythnos yn 么l y cychwynnodd ar y trefnu.

"Dydw i ddim yn synnu chwaith gan fod cymuned agos yma a phobl wastad yn barod i helpu".

Fe fydd yna ddau lwyfan yn Undeb y Myfyrwyr ac mae lle i 1,300 o bobl.

Bydd y gweithgareddau hefyd yn cynnwys sioe ffasiwn, cystadlaethau, gemau ac ocsiwn.

Dywedodd y byddai That Man Dan and Ivor; Dylan Cairns; Avarice; Andy Cairns; Ray Jones; Stephanie Anna May Finnegan a'r Gwirfoddolwyr ymhlith y bandiau fydd yn perfformio.

Dywedodd Mr Maycock bod Stepping Stones; Blaidd; Cloud Cuckoos; This Plague is Static; Tom Longland; High Society a Coppins Coppins Mugrave hefyd yn cymryd rhan.

Mae'r tocynnau yn 拢6 i oedolyn, 拢3 (16 ac iau) ac fe fyddan nhw ar gael wrth y drws.