Cyfarfod cyhoeddus bwrdd iechyd yn rhoi cyfle i bobl Blaenau Ffestiniog leisio barn

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ysbyty yn 80 oed ac wedi ei godi gan arian y chwarelwyr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgynghori ym Mlaenau Ffestiniog oherwydd eu bwriad i symud gwelyau a gwasanaethau eraill o'r Ysbyty Coffa.

Nod y bwrdd yw buddsoddi 拢4 miliwn i greu canolfan feddygol yn y dref ond mae pobl leol wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gadw gwasanaethau yn yr ysbyty.

Mae'r cyfarfod ddydd Iau yn gyfle iddyn nhw ddweud eu barn wrth swyddogion y bwrdd ac mae dogfen ymgynghorol am ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yn cynnwys cau'r ysbyty.

Dywedodd y bwrdd ei fod "yn gweithio at newidiadau i wasanaethau iechyd er mwyn gwella gofal y claf".

Mae'r bwrdd yn rhagweld diffyg ariannol o 拢64.6 miliwn eleni.

Yn y cyfamser, mae dadansoddiad 麻豆官网首页入口 Cymru o'r ystadegau yn dangos bod Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi gor-wario dros 拢12 miliwn yn y pedwar mis cynta ers Ebrill.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi dweud y bydden nhw'n tocio ar dalu gor-amser a gweithwyr-asiantaeth, er mwyn ceisio cau bwlch ariannol o 拢7.5 miliwn.

Cau unedau

Yn y gogledd o dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fe allai Ysbytai Cymunedol Y Fflint a Blaenau Ffestiniog gau.

Dywedodd Gwilym Price, is-gadeirydd pwyllgor amddiffyn Ysbyty Goffa Blaenau Ffestiniog, ei fod yn derbyn bod angen arbed arian.

"Ond pam na fyddan nhw'n edrych o'r top i lawr i wneud toriadau?

"Mae ganddon ni enghreifftiau gwych o wastraff ... ac mae'r hyn mae'r ysbyty yn ei gostio i'r bwrdd drwy ogledd Cymru yn ddim mwy na 拢800,000.

"Mae'n ysbyty sy'n 80 oed ac mae wedi rhoi gwasanaeth teilwng iawn i'r dref ers 1925.

"Ein neges ni ydi iddyn nhw yw 'edrychwch yn fanwl ar y dyfodol'."

Dywedodd fod angen i'r bwrdd edrych ar adroddiad y mae'r pwyllgor amddiffyn wedi ei anfon fel ymateb i adroddiad Dr Edward Roberts a bod "y dadleuon yno yn gryf a bod Blaenau yn deilwng o gael ysbyty".

Gallai uned m芒n anafiadau sawl ysbyty arall yn y gogledd ddiflannu.

Fe fyddai hyn yn effeithio ar ysbytai Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.

Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.

Henoed

Mae argymhellion newid darpariaeth ar gyfer yr henoed yn golygu cau Ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.

Mae 'na bryder y byddai'r gofal dwys newydd-anedig yn cael ei drosglwyddo dros y ffin.

Dywedodd y bwrdd iechyd y bydden nhw'n gwrando ar bryderon pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Roedd y cyfarfodydd cyntaf yng Nghei Conna ddydd Mawrth.

Er mwyn mynychu un o'r cyfarfodydd mae angen cysylltu gyda'r bwrdd ar 0800 678 5297.