TGAU: Gwell graddau i 2,386

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ailraddio wedi canolbwyntio ar y ffin rhwng graddau C a D.

Bydd graddau 1,202 o fyfyrwyr yn newid o D i C a 598 yn newid o C i B ar 么l i staff bwrdd arholi Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) orffen ailraddio papurau arholiad TGAU Saesneg yng Nghymru.

Bydd cyfanswm o 2,386 yn cael gwell graddau.

Mae'n debyg y bydd y rhan fwya' o fyfyrwyr yn cael gwybod fore Mercher.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: "Y nod oedd sicrhau bod myfyrwyr Cymru'n cael y graddau yr oedden nhw'n eu haeddu ...

"Rydym yn ddiolchgar i'r arholwyr a staff y Cydbwyllgor Addysg weithiodd yn ddiflino er mwyn sirchau y byddai myfyrwyr yn cael eu graddau'n brydlon."

'Anffodus iawn'

Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC: "Rydym yn falch fod y sefyllfa wedi'i datrys yn gymharol gyflym ar gyfer y rhan fwya' o ddisgyblion yng Nghymru.

"Yr unig opsiwn sydd gan eu cymheiriaid yn Lloegr yw aros tan fis Tachwedd i ail-sefyll yr arholiad, gan dderbyn canlyniad tua diwedd y flwyddyn.

"Mae'n anffodus iawn ein bod ni wedi ffeindio'n hunain yn y sefyllfa hon yn y lle cynta'. Mae'n dangos pa mor rhwydd yw hi i'r system gymwysterau fod yn b锚l-droed gwleidyddol pan fo dau Weinidog Addysg mor wahanol i'w gilydd yn San Steffan ac yng Mae Caerdydd.

"Yn sgil hyn oll, mae'n ymddangos bod newid yn y system yn anorfod. Mae materion i'w hystyried ynghylch y cymwysterau eu hunain, y system gymwysterau ehangach, ac yn bennaf oll, y cyfundrefnau rheoleiddio."

"Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd adroddiad oedd yn dweud fod y modd cafodd y graddau eu penderfynu'n annheg.

Roedd cwymp yn nifer y disgyblion lwyddodd i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru o 61.3% yn 2011 i 57.4% eleni.

Mae'r ailraddio wedi canolbwyntio ar y ffin rhwng graddau C a D.

Roedd y penderfyniad i ailraddio wedi arwain at ffrae gyhoeddus rhwng Mr Andrews a Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg San Steffan.

'Anghyfrifol'

Roedd Mr Gove wedi dweud bod Mr Andrews yn "anghyfrifol" am iddo orchymyn CBAC i ailraddio papurau myfyrwyr o Gymru.

Rhybuddiodd hefyd y gallai cyflogwyr yn Lloegr benderfynu yn y dyfodol na fyddai pasio arholiad yng Nghymru yn cyfateb i ganlyniad tebyg yn Lloegr.

Llywodraeth Cymru sy'n rheoleiddio arholiadau yng Nghymru ond yn Lloegr Ofqual sy'n gwneud y gwaith ac maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod angen ailraddio papurau.

Fe wnaeth 34,000 o ddisgyblion yng Nghymru sefyll arholiad Saesneg CBAC, ond hefyd 84,000 o ddisgyblion yn Lloegr.