麻豆官网首页入口

Beirniadu gwasanaeth addysg Powys

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor PowysFfynhonnell y llun, Oliver Dixon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pencadlys Cyngor Powys

Mae'r corff arolygu Estyn wedi beirniadu perfformiad gwasanaeth addysg Cyngor Powys.

Cafodd y cyngor 50 diwrnod i baratoi cynllun gweithredu ac fe gafodd wybod fod angen "gwelliant sylweddol".

Dywed y Cyngor eu bod eisoes wedi cymryd camau i wella'r gyfundrefn.

Un o'r camau yw rhoi cyfrifoldeb am addysg yn nwylo prif weithredwr y sir.

Mae Estyn wedi bod yn monitro'r awdurdod ers arolwg ym mis Chwefror 2011 a daeth t卯m o chwe arolygwr fis diwethaf.

Dywedodd llythyr at brif weithredwr y cyngor fod cynnydd "yn rhy gyfyng ac araf" ac mae'n gwneud cyfres o argymhellion pellach.

Bydd arolwg arall o fewn 12 mis.

Ffaeleddau

Mae'r llythyr - sydd hefyd wedi ei yrru at Lywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru - yn dweud bod swyddogion a chynghorwyr allweddol yn ymwybodol o'r hyn sydd angen ei wneud.

"O ganlyniad i'r canfyddiadau, bydd yr awdurdod yn newid o fod o dan oruchwyliaeth Estyn i fod yn awdurdod sydd angen gwelliannau sylweddol."

Roedd hunanwerthusiad y cyngor yn rhy bositif, meddai Estyn, ac nid oedd yn adnabod ffaeleddau na diffyg gweithredu argymhellion blaenorol.

Dywedodd Estyn hefyd nad oedd swyddogion y cyngor wedi cyflwyno gwybodaeth yn eglur a bod safon adroddiadau ysgrifenedig am ymweliadau ysgolion yn "amrywiol".

Pedair ysgol

Yn y sir mae pedair ysgol sydd angen "gwelliannau sylweddol" a thair arall sydd angen mesurau arbennig - yn fwy na'r un awdurdod arall yng Nghymru.

Ond yn 么l y corff arolygu, nid yw'r cyngor wedi defnyddio ei bwerau yn llawn ac nid yw swyddogion unigol wedi gorfod ateb am eu perfformiad.

Er bod y cyngor wedi cau 14 o ysgolion cynradd a chael gwared ar 180 o leoedd gwag mewn ysgolion uwchradd, mae ymdrechion i foderneiddio'r gwasanaeth addysg wedi bod yn rhy araf, ac mae niferoedd disgyblion yn parhau i grebachu, meddai.

Dywedodd arweinydd Cyngor Powys David Jones: "Rydym wedi derbyn llythyr gan yr arolygwyr, ac roedd y casgliadau yn hynod siomedig.

"O ganlyniad rydym wedi cymryd camau sydyn a phenderfynu mynd i'r afael a'r problemau.

"Y weithred gyntaf oedd rhoi cyfrifoldebau'r Prif Swyddog addysg yn nwylo'r Prif Weithredwr.

"Rheolaeth darpariaeth addysg ...yw blaenoriaeth y cyngor, mae'n wasanaeth sy'n rhaid ac a fydd yn llwyddo," meddai Mr Jones.

"Mae ein cynlluniau wedi derbyn cefnogaeth Estyn ond bydd hefyd angen s锚l bendith Gweinidog Addysg Cymru.

"Mae gan y cyngor 50 diwrnod i lunio cynllun gweithredol fydd yn amlinellu'r camau fydd yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau'r gwelliannau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol