麻豆官网首页入口

拢227m i Lywodraeth Cymru, medd George Osborne

  • Cyhoeddwyd
George OsborneFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cododd y Canghellor ar ei draed am 12:35pm

Mae'r Canghellor, George Osborne, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar 拢227 miliwn o arian cyfalaf dros weddill cyfnod yr adolygiad gwariant.

Bydd hefyd yn elwa ar 拢52 miliwn o arian ychwanegol drwy Fformiwla Barnett, gan ddod 芒'r cyfanswm o arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod adolygu gwariant i 拢674 miliwn.

Tamaid i aros pryd gafwyd gan y Canghellor, rhagflas o'r hyn fydd yn y Gyllideb go iawn yn y Flwyddyn Newydd.

Roedd Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi galw am wariant i adfywio'r economi - yn y datganiad mae 拢5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf wedi ei neilltuo ar roi hwb i dwf economaidd.

Gwrandawiad

Wrth i Mr Osborne ddweud bod yr economi yn gwella, daeth bonllefau o wrthwynebiad gan y gwrthbleidiau a bu'n rhaid i'r Llefarydd John Bercow ymyrryd wedi llai na munud o'r araith i ofyn am wrandawiad gwell.

"Mae buddsoddiad yn llifo i mewn i'r DU yn hytrach nag allan ohoni," meddai Mr Osborne.

Cadarnhaodd bod y Swyddfa Gyfrifoldeb Cyllidol yn rhagweld y bydd economi Prydain yn crebachu o 0.1% eleni, ac y bydd trafferthion gwledydd yr Ewro yn "cyfyngu ar dwf am flynyddoedd i ddod".

Ond roedd y Swyddfa'n rhagweld twf yn y blynyddoedd i ddilyn fel a ganlyn:-

  • 1.2% yn 2013;

  • 2% yn 2014;

  • 2.3% yn 2015;

  • 2.7% yn 2016;

  • 2.8% yn 2017.

Mae'r rhagolygon hynny yn llawer gwaeth na'r rhai a gyhoeddodd Mr Osborne yn ei gyllideb ym mis Mawrth eleni.

Mesurau

Ond pwysleisiodd Mr Osborne hefyd bod y diffyg - sef y gwahaniaeth rhwng yr arian mae'r llywodraeth yn gwario a'r arian mae'n ei dderbyn mewn trethi - yn lleihau, ac yn debyg o wneud hynny am y pum mlynedd nesaf.

Toriadau mewn gwariant cyhoeddus sy'n gyfrifol am hynny, medd y Canghellor, gan ddatgan ei fwriad i barhau gyda chynlluniau o'r fath tan 2018.

Bydd y mesurau felly'n cynnwys cymysgedd o 20% o drethi uwch ac 80% o doriadau.

O ran buddsoddi, y mesur pendant cyntaf iddo gyhoeddi oedd y byddai'n gwario 拢1 biliwn yn ychwanegol ar ffyrdd, gan gynnwys nifer o gynlluniau uwchraddio mawr.

Yn groes i'r hyn y mae ei bartneriaid yn y llywodraeth glymblaid - Y Democratiaid Rhyddfrydol - wedi bod yn galw amdano, dywedodd Mr Osborne na fyddai'n cyflwyno treth newydd ar eiddo.

Ond fe blygodd i ddymuniadau Mr Clegg drwy gyhoeddi mesurau i newid pensiynau pobl sy'n ennill y cyflogau mwyaf.

Ychwanegodd Mr Osborne y bydd yn gohirio'r cynnydd yn y dreth ar danwydd yr oedd wedi addo'i gyflwyno ym mis Ionawr 2013 - roedd sawl un wedi galw am hyn.

Budd-daliadau

Bydd pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn cynyddu o 拢2.70 yr wythnos o Ebrill 8, 2013.

Bydd hynny'n newyddion da i 640,000 o bensiynwyr yng Nghymru a fydd yn elwa o'r cynnydd, sy'n uwch na graddfa chwyddiant a'r cynnydd mewn cyflogau.

Fe fydd y cynnydd mewn rhai budd-daliadau yn llai na graddfa chwyddiant, ond fe fydd budd-dal gofalwyr a budd-dal anabledd yn codi yn unol 芒 graddfa chwyddiant.

Bydd y budd-daliadau eraill yn cynyddu o 1% yn unig dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y trothwy i bobl ddechrau talu'r raddfa uchaf o dreth incwm - 40% - yn codi o 1% yn 2014 a 2015, sef o 拢41,450 i 拢41,865 ac yna 拢42,285.

Mynnodd y Canghellor y byddai hyn yn codi arian gan nad oedd y cynnydd yn unol 芒 graddfa chwyddiant.

Gorffennodd Mr Osborne ei araith am 1:21pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol