麻豆官网首页入口

Pryder arbenigwr am driwantiaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgybl
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Athro Ken Reid fod plant mor ifanc ag wyth oed yn absennol heb ganiat芒d

Mae lefel triwantiaeth mewn rhai ardaloedd yng Nghymru hyd at bum gwaith yn fwy na'r lefel yn Lloegr, yn 么l arbenigwr.

Dywedodd yr Athro Ken Reid, sydd wedi cynghori Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 sut i daclo triwantiaeth, fod plant mor ifanc ag wyth oed yn absennol heb ganiat芒d.

Mae ystadegau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod 9,800 yng Nghymru a Lloegr yn 2011 yn euog o beidio 芒 sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol tra oedd 2,250 yn 2001.

Ar raglen Jason Mohammad ar Radio Wales dywedodd Yr Athro Reid: "Mae lefel triwantiaeth mewn rhai ardaloedd o'r de, Cymoedd y De a'r gogledd-ddwyrain rhwng pedair a phum gwaith yn fwy na'r lefel yn Lloegr.

"Ond mae lefel triwantiaeth mewn nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru ar yr un raddfa 芒 Lloegr."

Wyth oed

Ychwanegodd fod plant rhwng wyth oed ac 11 oed yn chwarae triwant.

"Roedd mwy na 12% o blant rhwng wyth oed ac 11 oed yn absennol o'r ysgol heb ganiat芒d am fwy na 25 diwrnod mewn blwyddyn yn un o gymoedd y de," meddai.

Dywedodd Neil Foden, Prifathro Ysgol Friars ym Mangor: "... dwi ddim o blaid carcharu rhieni am beidio 芒 sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol mewn rhai achosion.

"Ond pan nad yw rhieni yn fodlon cydweithio 芒'r ysgol efallai mai carcharu yw'r unig opsiwn."

Ym mis Tachwedd lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar sut i ddelio 芒 thriwantiaeth.

Ar y pryd dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews fod taclo'r broblem yn flaenoriaeth wrth wella safonau addysg yng Nghymru.

Mae'r llywodraeth yn ceisio barn am gyflwyno dirwy o 拢60 i'w thalu o fewn 28 diwrnod yn achos rhieni sy' ddim yn sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol.

拢120

Byddai'r gosb yn codi i 拢120 os yw'r rhieni yn talu'r ddirwy rhwng 28 diwrnod a 42 ddiwrnod yn ddiweddarach.

Ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyw disgyblion ddim yn dysgu os nad ydyn nhw yn y dosbarth ...

"Dyna pam mae manylion presenoldeb myfyrwyr yn rhan o'r system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd ac o ganlyniad mae awdurdodau lleol yn cymryd y mater o ddifrif.

"Mae ein Cynllun Gweithredu Gwella Ysgolion yn amlinellu ein cynlluniau i wella'r system addysg yng Nghymru, gan gynnwys camau i wella presenoldeb.

"Ac mae gweithredu'n effeithiol yn rhan allweddol o fynd i'r afael 芒 phresenoldeb isel mewn ysgolion."