Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dadlau am newid ffiniau seneddol
Mae cynlluniau Llywodraeth San Steffan i gwtogi ar nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig wedi cael ergyd yn Nh欧'r Arglwyddi.
Ddydd Llun fe bleidleisiodd aelodau o 300 i 231 i ohirio newidiadau i ffiniau seneddol tan ar 么l yr etholiad cyffredinol nesa'.
Dyma'r tro cynta' i weinidogion y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn ei gilydd ers ffurfio'r glymblaid.
Yn 么l gweinidogion, fe ddylai Cymru gael 30 yn hytrach na 40 Aelod Seneddol yn San Steffan fel rhan o gynllun i leihau maint T欧'r Cyffredin o 650 i 600 a sicrhau fod Aelodau Seneddol yn cynrychioli tua'r un faint o etholwyr.
Ond mae'r gwrthbleidiau yn dadlau fod y newidiadau'n annheg ac y bydd y Ceidwadwyr yn elwa yn fwy nag unrhyw blaid arall.
Bydd y mesur nawr yn dychwelyd i D欧'r Cyffredin.
Hyd yn oed petaen nhw'n cefnogi'r mesur, mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn y ffiniau newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Petai'r ffiniau seneddol yn cael eu diwygio, mae Llywodraeth y DU wedi argymell newid etholaethau'r Cynulliad i gydfynd 芒'r map gwleidyddol newydd - fyddai'n golygu 30 o Aelodau Cynulliad yn hytrach na'r 20 sy'n cael eu dewis o restrau rhanbarthol.