Canolfan Gymraeg Wrecsam yn dathlu pen-blwydd

Ffynhonnell y llun, Saith Seren

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ganolfan yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf ar Ionawr 25

Mae canolfan Gymraeg Wrecsam, y Saith Seren, yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf.

Agorodd y Saith Seren yn Ionawr 2012 ac mae'n cael ei redeg gan fudiad gwirfoddol a chydweithredol.

Dywedodd Marc Jones, cadeirydd y fenter gydweithredol, fod y flwyddyn gyntaf wedi mynd heibio'n gyflym iawn.

"Dwi'n rhyfeddu ein bod wedi llwyddo i 'neud gymaint ag eto'n gwybod fod gennyn ni gymaint yn fwy i'w wneud," meddai.

Mae gwaith ar lawr cyntaf yr adeilad ar fin gorffen a dywedodd Mr Jones y byddai agor y llawr yna'n caniat谩u iddynt gynnig gwasanaethau ychwanegol.

'Canolfan go iawn'

"Byddwn ni'n medru cynnig dosbarthiadau Cymraeg a swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod i fudiadau cymunedol," meddai.

"Rydyn ni wedi derbyn llawer o ddiddordeb gan bobl sydd am rentu swyddfeydd a bwcio ystafelloedd.

"Bydd hi'n ganolfan go iawn yn hytrach na thafarn yn unig," meddai.

Dywedodd ei fod yn credu bod y ganolfan wedi cael effaith da ar yr iaith Gymraeg ers iddi agor.

"Dwi'n meddwl bod o'n arwydd o ryw fath o hyder newydd," meddai.

"Yn y gorffennol roedd y Gymraeg yn rhywbeth oedd yma ond dim ond mewn rhai llefydd - y capel, yr ysgol - doedd o ddim yn weladwy iawn.

"Dwi'n meddwl 'falle bod ni wedi mynd 芒 fo gam ymhellach."

Dywedodd fod digwyddiadau yn y ganolfan wedi llwyddo i ddenu amrywiaeth o bobl.

"Pan mae yna ddigwyddiad ymlaen mae'n llwyddo i ddenu Cymry Cymraeg a dysgwyr yn ogystal 芒 nifer fawr o Gymry di-Gymraeg sydd yn gefnogol o'r iaith, sydd efallai yn anfon eu plant i'r ysgolion Cymraeg ac yn gweld budd o ran cael lle fel y Saith Seren.

Ffynhonnell y llun, Saith Seren

Disgrifiad o'r llun, Bydd y ganolfan yn ehangu i lawr cyntaf yr adeilad

"Rydyn ni'n cael nosweithiau gyda bandiau lleol yn perfformio ar nos Sadwrn ac mae llawer o bobl nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg yn dod."

Dathlu

Dywedodd Mr Jones nad oedd y flwyddyn gyntaf bob amser wedi bod yn hawdd, gyda chyflwr yr economi yn effeithio ar bob busnes.

"Yn y pen draw mae dwsinau o dafarndai yn y dre," meddai.

"Ond rydyn ni'n cynnig rhywbeth gwbl gwahanol, nid yn unig am ei fod yn rhoi ffocws i'r iaith Gymraeg, ond am ei fod yn cael ei redeg gan y gymuned.

"Rydyn ni'n fenter gydweithredol, does 'na ddim cwmni mawr y tu 么l i ni."

Bydd y Saith Seren yn dathlu ei ben-blwydd gyda gig gan Elin Fflur ar nos Wener Ionawr 25.

Ar nos Sadwrn Ionawr 26 bydd The Wee Bag Band o Ddinbych yn chwarae.

"Wnaethon nhw chwarae ar y noson gyntaf hefyd," meddai Mr Jones.

"Felly mae'n flwyddyn yn union ers iddyn nhw chwarae yma ac mi roedd hwnna'n noson wych.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y ddwy noson."