麻豆官网首页入口

Y ffordd ymlaen

  • Cyhoeddwyd
Pencadlysoedd S4C a 麻豆官网首页入口 Cymru yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Penderfynodd Llywodraeth y DU yn 2010 mai'r 麻豆官网首页入口 ddylai fod yn bennaf gyfrifol am ariannu S4C

Mae Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ac Awdurdod S4C wedi dod i gytundeb am sut y bydd y sianel yn gweithredu o fis Ebrill 2013.

Dyna pryd y bydd S4C yn symud tuag at gael ei hariannu'n bennaf gan y 麻豆官网首页入口, a hynny tan 2017.

Cafodd y cytundeb ei gymeradwyo mewn cyfarfodydd ar wah芒n o Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ac Awdurdod S4C ym mis Ionawr.

Yn 么l y ddau gorff darlledu mae'r cytundeb yn sicrhau annibyniaeth S4C, ac yn amlinellu atebolrwydd addas ar gyfer Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 am y cyllid o ffi'r drwydded a fydd yn mynd i'r sianel.

Ers i'r Ysgrifennydd Diwylliant ar y pryd, Jeremy Hunt, gyhoeddi ym mis Hydref 2010 y byddai'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gyllido S4C yn bennaf, mae rhai o'r gwrthbleidiau a grwpiau megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn feirniadol gan ddweud y byddai'n peryglu annibyniaeth olygyddol S4C.

Ymgynghoriad

O fis Ebrill, bydd mwyafrif incwm cyhoeddus S4C yn cael ei ddarparu gan y 麻豆官网首页入口 o ffi'r drwydded.

Mae'r cytundeb newydd yn sicrhau y bydd Awdurdod S4C yn parhau i fod yn gorfforaeth statudol annibynnol, a bydd yn derbyn cyllid hefyd gan lywodraeth y DU ac yn cynhyrchu refeniw masnachol ei hun.

Fe ddaw'r cytundeb yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a lansiwyd gan yr Ymddiriedolaeth a'r Awdurdod yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 ym Mro Morgannwg.

Dywed Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ac Awdurdod S4C eu bod wedi bod ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd ac ers i'r ymgynghoriad ddod i ben wedi bod yn ystyried newidiadau i'r cytundeb.

'Datblygiad hanesyddol'

Heddiw, dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口, yr Arglwydd Patten: "Rwyf wrth fy modd bod Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ac Awdurdod S4C wedi cymeradwyo'r Cytundeb Gweithredu hwn, sy'n ymhelaethu'r bartneriaeth sydd gennym eisoes yng Nghymru.

"Trwy'r Cytundeb hwn rwyf o'r farn y bydd y naill sefydliad a'r llall yn medru datblygu'r cyfryngau darlledu Cymraeg ymhellach a darparu gwasanaeth sy'n cwrdd ag anghenion a disgwyliadau cynulleidfaoedd yng Nghymru - disgwyliadau ac anghenion sy'n newid ac esblygu."

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Mae hwn yn ddatblygiad hanesyddol ar gyfer darlledu Cymraeg sy'n darparu eglurder ar gyfer y berthynas newydd rhwng S4C a'r 麻豆官网首页入口, tra ar yr un pryd yn diogelu annibyniaeth S4C.

"Mae'r Cytundeb Gweithredu hwn yn cynrychioli penllanw trafodaethau helaeth rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 a nifer o randdeiliaid ac mae'n diogelu'r rhan helaeth o gyllid S4C tan 2017.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Bu eu cyfraniadau yn werthfawr tu hwnt ac maent wedi cyfrannu'n arwyddocaol at eiriad terfynol y Cytundeb unigryw hwn."

'Dyfodol hyderus'

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y 麻豆官网首页入口 dros Gymru:

"Fy mhrif flaenoriaeth yw cynorthwyo S4C i ddarparu'r rhaglenni gorau posib i gynulleidfaoedd Cymraeg, tra'n diogelu annibyniaeth S4C a sicrhau bod arian o ffi'r drwydded yn cael ei wario'n ddoeth.

"Bydd y bartneriaeth helaethach hon yn adeiladu ar ymrwymiad y 麻豆官网首页入口 i'r Gymraeg sydd wedi bodoli ers dyddiau cynharaf y Gorfforaeth, ac yn adeiladu ar lwyddiannau S4C dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf ac yn symud darlledu yn y Gymraeg yn ei flaen tuag at ddyfodol creadigol hyderus."

Bydd y 麻豆官网首页入口 yn cyfrannu'r canlynol o ffi'r drwydded i S4C:

  • 2013-14 - 拢76.3m;

  • 2014-15 - 拢76.0m;

  • 2015-16 - 拢75.25m;

  • 2016-17 - 拢74.5m.

Yn ogystal yn ystod 2013-14 bydd y 麻豆官网首页入口 yn cyfrannu rhaglenni gwerth 拢19.4m fel rhan o'r Bartneriaeth Strategol ar y ddarpariaeth statudol o raglenni.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol